Cwrs undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Byddwch yn dysgu’r sgiliau er mwyn edrych ar ddichonolrwydd gwahanol fentrau ac effaith arallgyfeirio ar y mentrau presennol. Bydd y cwrs yn edrych ar ymchwil i’r farchnad, ac elfennau sylfaenol yn ymwneud â chyllidebu. Bydd hefyd yn ymdrin â chynllunio a gweithredu’r prosiect, ynghyd â’r problemau a allai ddod yn sgil hynny. Bydd y cwrs yn helpu i’ch cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a’ch cyfeirio tuag at brosiect arallgyfeirio posibl.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: