Bydd y modiwl ôl-raddedig hwn, a gynhelir ar-lein, yn rhedeg am dri mis, gan ddechrau ym mis Mai. Dylai’r sawl sy’n ymgymryd â’r cwrs feddu ar naill ai gradd dosbarth cyntaf, neu o leiaf dwy flynedd o brofiad perthnasol mewn amaethyddiaeth. Gallwch ymgymryd â’r cwrs fel DPP ar ei ben ei hun, neu gallwch ei ddefnyddio i adeiladu tuag at gymhwyster ôl-raddedig.
Gwerth y modiwl yw 30 Pwynt SAIL
Mae pridd wrth wraidd bron pob dull o gynhyrchu bwyd. Mae’r modiwl hwn yn amlygu sut gall gwybodaeth am briddoedd gynorthwyo i sicrhau cynaliadwyedd a diogelwch mewn systemau cynhyrchu bwyd.
Bydd myfyrwyr yn dysgu am ffurfiant, priodoleddau, a swyddogaeth priddoedd mewn cyd-destun amaethyddol, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd a’r rhan allweddol sydd gan ffyrdd o reoli pridd mewn dyfodol bwyd cynaliadwy. Trwy gymysgedd o aseiniadau beirniadol, darlithoedd, astudiaethau achos ac ymchwil, bydd myfyrwyr yn dod i ddeall cymhlethdod systemau pridd a sut gall gweithgarwch dynol ddylanwadu'n gadarnhaol ac yn negyddol ar eu hiechyd.
Cynnwys
- Ffurfiant a swyddogaeth pridd
- Dosbarthiad a phriodweddau pridd
- Bywyd yn y pridd
- Pridd a chynhyrchiad
- Effaith bodau dynol ar briddoedd
- Ecosystemau pridd a'r amgylchedd
- Rheoli pridd yn gynaliadwy
- Technolegau a rheoli pridd
Canlyniadau Dysgu:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd y sawl fydd yn ymgymryd â’r cwrs yn gallu gwneud y canlynol:
- Byddan nhw’n gallu egluro'r heriau ar hyn o bryd a heriau'r dyfodol i gyflenwadau bwyd mewn perthynas ag iechyd pridd;
- Bydd ganddyn nhw ddealltwriaeth sylfaenol o briodweddau a swyddogaethau systemau pridd gwahanol;
- Byddan nhw wedi datblygu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng priodweddau'r system bridd a rheoli tir yn gynaliadwy;
- Byddan nhw’n gallu gwerthuso effaith rheoli pridd ar gynhyrchiant a'r amgylchedd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.