Cwrs hyfforddi 2 ddiwrnod ydy hwn, sydd wedi'i achredu gan ILM (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth). Ar ôl cwblhau'r cwrs bydd tystysgrif yn cael ei chyflwyno gydag achrediad ILM.
Fel rheolwr mae'n bwysig gallu cyfathrebu'n dda gydag eich staff, bydd y cwrs yn eich dysgu sut i gyfathrebu'n effeithiol. Byddwch yn dysgu sut i ysgogi eich staff i fod mor gynhyrchiol â phosibl. Cewch wybod sut i ddatblygu eich tîm a'r dewisiadau sydd ar gael i'w wella. Mae angen i reolwr allu ysbrydoli eu gweithwyr. Trwy gyfrwng y cwrs hwn byddwch yn deall sut i ennill ymrwymiad eich gweithwyr i'ch busnes.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu nodi'r ffactorau ysgogol o fewn y gweithle sy’n gallu effeithio ar eich tîm. Byddwch yn gallu datblygu eich tîm trwy ddefnyddio technegau dirprwyo yn effeithiol. Byddwch yn deall sut i gyfathrebu'n effeithiol a sut i ysbrydoli eich tîm i ragori.
Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs bydd dysgwyr yn gallu:

•    Deall seicoleg arweinyddiaeth a'r gwahanol fathau o steil o hyrwyddo arweinyddiaeth
•    Deall datrys problemau a gwneud penderfyniadau
•    Deall datblygiad personol a’r heriau cysylltiedig 
•    Deall sut i ysgrifennu cais ar gyfer tendr cystadleuol a pharatoi achos busnes

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Datblygu Sgiliau Arwain a Sgiliau Pobl ar gyfer Busnes Llwyddiannus

Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn:

CCW - Training Academy (Career Change Wales)

Enw Cyswllt:

Harri Shuffley


Rhif ffôn:
02921 156603


Cyfeiriad ebost:
harri@CareerChangeWales.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.careerchangewales.co.uk


Cyfeiriad post:
2nd Floor, 5 - 7 Museum Place, Caerdydd, CF10 3BD

 

Ardal:
Cymru gyfan


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

DIY Ffrwythloni Artiffisial (AI)
Fel arfer, cwrs 3 diwrnod gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs
Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio
Cwrs hyfforddiant deuddydd gydag asesiad annibynnol a thystysgrif
Rheoli Wiwerod Llwyd
Cwrs undydd sy’n cynnwys hyfforddiant ac asesiad. Dyfernir