Cwrs hanner diwrnod yw hwn. Gyda thystysgrif hyfforddiant ar ôl ei gwblhau.
Mae’n bwysig trin a thrafod pwysau yn y ffordd gywir er mwyn osgoi anaf. Drwy wneud y cwrs hwn, byddwch chi'n cael yr wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i ddeall y risgiau sy'n gysylltiedig â trin a thrafod pwysau yn anghywir. Byddwch chi’n dysgu sgiliau sylfaenol trin a thrafod pwysau, gyda theori gefndirol ac ymarfer. Byddwch chi'n edrych ar y mathau o anafiadau sy'n cael eu hachosi drwy drin a thrafod pwysau yn anghywir a sut i fod yn ddiogel wrth gyflawni tasgau. Mae sesiynau'r cwrs yn cynnwys: trin a thrafod pwysau a’r gyfraith, y system gyhyrysgerbydol, mecaneg symudiadau, mathau o anafiadau trin a thrafod pwysau, asesu risgiau, mesurau rheoli ar gyfer lleihau'r risgiau o niwed, egwyddorion trin yn ddiogel ac offer trin a thrafod pwysau.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Groundwork Gogledd Cymru gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.