Trosolwg: Mae'r cwrs undydd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n ffurfio tîm craidd bach neu deulu ac mae'n adeiladu ar gryfderau'r unigolion i greu synergedd tîm. Mae'r cwrs yn cyfuno trafodaethau dan arweiniad hyfforddwr, theori, ac ymarferion grŵp.
Wedi'i gynllunio ar gyfer: Rheolwyr fferm, staff a rheolwyr mewn busnesau gwledig.
Nod: Darparu dealltwriaeth glir o rôl yr unigolyn a’r tîm, a datblygu cymhelliant a hunangymhelliant wedi’i adeiladu ar ymddiriedaeth ac atebion.
Amcanion: Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gallu:
• Disgrifio a defnyddio nifer o ddamcaniaethau cymhelliant
• Rhestru a dadansoddi'r prosesau mewn adeiladu tîm dros amser
• Rhestru a dadansoddi dylanwad damcaniaeth rolau tîm
• Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer adeiladu tîm
• Datblygu strategaeth i gydnabod rolau a chamau tîm yn barhaus
Dull: Bydd y cwrs yn cyflwyno cyfres o gysyniadau a damcaniaethau i chi ynghyd â chyfleoedd i fyfyrio ar y syniadau hynny, eu trafod a’u rhoi ar waith.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: