Pam fyddai Stephen yn fentor effeithiol

  • Mae’r ffermwr defaid profiadol o Sir Frycheiniog, Stephen, y mae ei deulu wedi bod yn ffermwyr ers cenedlaethau, wedi teithio dros y Deyrnas Unedig i gyd yn cystadlu â rhai o’r perchenogion stoc gorau, mwyaf llwyddiannus.  

  • Yn gefnogwr brwd o ddysgu a hyfforddiant gydol oes, mae’n dweud ei fod yn defnyddio’r hyn y mae wedi ei ddysgu o gyfuniad o gyrsiau hyfforddiant, cystadlu yn erbyn pobl eraill ac o’r sgiliau busnes, ariannol, rheoli tir ac anifeiliaid ymarferol y mae’n eu defnyddio ar ei fferm ei hun. 

  • Gan ei fod wedi mynd ati i ddefnyddio technoleg ac arferion ffermio modern, mae ganddo ddyfnder da o wybodaeth am EID, cofnodi data a chofnodi perfformiad, ac mae’n dweud ei fod yn teimlo ei fod mewn sefyllfa dda i helpu unrhyw un sy’n edrych tua’r dyfodol ac angen arweiniad ar sut y gall y technolegau hyn eu helpu. 

  • Mae Stephen hefyd yn ymfalchïo’n fawr yn ochr draddodiadol ffermio, mae’n dangos a chneifio ei ddefaid bob blwyddyn ac mae’n cystadlu ar blygu gwrych, y cyfan yn sgiliau y mae’n teimlo y dylai’r genhedlaeth iau eu dysgu.  

Busnes fferm presennol

  • Mae Stephen yn cadw dwy ddiadell bedigri. Mae un yn ddiadell Texel y cofnodwyd ei pherfformiad, a’r llall yn Benlas Caerlŷr ‘addas i’w croesi’. Gwerthir yr holl hyrddod Texel yn hesbyrddod mewn arwerthiannau cenedlaethol a’r NSA yn Llanelwedd. 

  • Yn 2022 derbyniodd wobr am gyflawni’r cyfartaledd perfformiad uchaf mewn diadell wedi ei chofnodi; a hefyd cafodd y Texel gyda’r marciau uchaf o ran twf oen yn y prosiect ‘cymharu hyrddod’.

  • Gwerthir y defaid Penlas Caerlŷr yn bennaf yn ŵyn. Mae Stephen yn mynd i arwerthiannau dros y Deyrnas Unedig i gyd, gan gynnwys yng Ngogledd Lloegr yn Hawes a Chaerliwelydd. Y defaid penlas yw sail gweddill y ddiadell. Croesir yr hyrddod Penlas â mamogiaid Swaledale i gynhyrchu defaid croes, sy’n cael eu gwerthu neu eu cadw fel stoc cyfnewid i fagu gyda’r hyrddod Texel i gynhyrchu ŵyn tew. 

  • Mae’r ddiadell fasnachol yn ŵyna allan ym mis Ebrill, y cyfan yn byw ar laswellt yn bennaf diolch i system reoli glaswellt effeithiol.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • L2 Amaethyddiaeth Coleg Sgiliau Gwledig 2004

  • L2 Gwaith mecanyddol fferm Coleg Sgiliau Gwledig 2004 

  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Coleg Sgiliau Gwledig 2004 

  • Meddyginiaethau anifeiliaid 

  • Symud anifeiliaid

  • Cymwysterau dipio a chwistrellu 

  • Llythrennedd cyfrifiadurol gydag amrywiol feddalwedd fferm (AgriWebb, Farmax)

  • Torri, traws dorri a phrosesu coed NPTC

  • Tarian Texelplus Llanfair ym Muallt 2022 

  • Pencampwr Penlas Sioe Frenhinol Cymru 

  • Pencampwr Texel gwryw Sioe Frenhinol Cymru 

  • Pris Uchaf Hawes am Hwrdd Penlas yn 2012 

  • Pencampwr a Chil-wobr Hawes 2007, 2008 a 2014 

  • Rhan o brosiect Cymharu Hyrddod 

  • Meistr glaswellt 

  • Aelod o grŵp Rhagori ar bori 

  • Pencampwr plygu gwrych dan 21 Cymru 

  • Cil-wobr y Pencampwr Hwrdd Penlas, Sioe Frenhinol Cymru 2009 

  • Saethu colomennod clai (cynrychioli Cymru) 
     

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Gall llawer o newidiadau bach gyda’i gilydd wneud gwahaniaeth anferth, yn aml iawn y pethau bach a sylw i’r manylion sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf.” 
“Mae cynllunio a chofnodi yn bwysig iawn. Gan gadw cofnodion am bopeth o dyfiant y glaswellt, i ganrannau ŵyna i wariant. Bydd yr holl wybodaeth yma yn eich helpu i gynllunio a gwella.”  
“Os edrychwch chi’n ddigon gofalus, fe welwch chi ffyrdd i wella eich hun a’ch busnes o flwyddyn i flwyddyn.”