Ansawdd Porfa

Fel rhan o’r prosiect, bydd 16 o ffermwyr bîff, defaid a/neu laeth o wahanol ranbarthau yng Nghymru yn cymryd samplau ansawdd porfa yn fisol, ynghyd â lluniau o’r borfa i ddarparu meincnod i eraill bennu ansawdd y borfa bosib ar eu fferm.

Tra bod ffon fesurydd neu’r mesurydd plât yn mesur y glaswellt (faint sydd yno), dylai eich llygaid fod yn asesu ansawdd y borfa, a fydd yn pennu pa ddosbarth o stoc sydd fwyaf addas ar gyfer pori pa gaeau i gyrraedd eu targedau perfformiad. 

 

Ansawdd, Ansawdd, Ansawdd! 

Yn aml yn y DU, gallwn ganolbwyntio gormod ar nifer/maint, ac nid ansawdd.  Y tair prif elfen sy’n gysylltiedig ag ansawdd yw:

  • Egni - MJME 
  • Protein - % - (ddim fel arfer yn ffactor cyfyngol) 
  • Treuliadwyedd - NDF (ffibr glanedol niwtral) 

Fel arfer, mae protein dros 16%, ac felly, nid yw’n gyfyngol ar gyfer anifeiliaid sy’n llaetha neu’n tyfu (mae’r ffocws ar egni porfa a threuliadwyedd). Bydd paru’r stoc gywir â’r maint a’r ansawdd cywir yn gyson yn cyflawni’r lefel uchaf o berfformiad a phroffidioldeb ar y fferm .

(Ffynhonnell y ddelwedd: Precision Grazing Ltd)

 

Asesu Porfa

Fel rheol, po fwyaf o ddail gwyrdd, meillion a llysiau, yr uchaf yw ansawdd y borfa. Wrth gerdded porfeydd, dylech ofyn i chi’ch hun: faint o ddeunydd marw sy’n bresennol? A yw’r borfa wedi mynd i had? Faint o’r meillion a llysiau eraill sydd o fewn y borfa? 

Bydd ansawdd porfa yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys: 

  • Lleoliad daearyddol 
  • Amodau amgylcheddol (tymheredd, lleithder a dyddodiad)
  • Math o laswellt a/neu godlys
  • Rheolaeth borfa

Fel defnyddio mesurydd plât i "ddysgu’r llygaid”, gall fod yn ddefnyddiol anfon samplau glaswellt ffres i labordy i’w dadansoddi; tynnwch lun o’r glaswellt cyn ei anfon er mwyn eich atgoffa i edrych yn ôl arno yn ddiweddarach yn y tymor.   


 10/05/2022


12/04/2022