Proffil ffermwr profiadol: Richard Rees
Enw: Richard Rees
Enw a lleoliad y fferm: Penmaen Bach, Pennal, Machynlleth
Sector: Defaid
Cyfradd stocio (gwartheg/ha neu kgLW/ha): 280KgLW/ha heb ŵyn
Prif fath o bridd: Cleibridd silt
Ffrwythlondeb y pridd: Anelu at pH sy’n uwch na 6, gyda bron y tir cyfan ar wahân i’r porfeydd garw yn cyrraedd hyn
Cyfraddau gwasgaru nitrogen ar hyn o bryd - a oes gennych gynlluniau i leihau hyn, a sut? Sero ar gaeau pori. Mae wedi bod yn 160/t/ha yn y gorffennol. Fe’i defnyddir yn ôl yr angen ar gaeau silwair
Prif fath o borfa (yr ardal sy’n cael ei mesur): Gwyndonnydd rhygwellt tymor hir, gydag ychydig o wyndonnydd llysieuol
Tunelli o ddeunydd sych (tDM)/ha a dyfwyd yn 2021: 7.5
Y nifer o gylchoedd pori a gyflawnwyd fesul padog/y flwyddyn: 7-8
Sut ydych chi wedi rhannu’r fferm? Nifer a maint y padogau? Mae’r prif floc wedi’i rannu’n 33 o badogau sydd tua 2ha o faint, gyda’r adladd silwair i lawr i 0.5ha i bori ŵyn ar ôl diddyfnu.
Oes gennych chi ddiwrnod penodol o’r wythnos pan fyddwch chi’n cerdded o amgylch y cylch pori ac yn mesur tyfiant y borfa? Fel arfer dydd Sul.
Pam ydych chi’n meddwl bod mesur glaswellt yn hanfodol i’ch rheolaeth? Mae gallu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer unrhyw warged/diffyg o ran glaswellt yn hanfodol ar gyfer cynllunio’r pori/silweirio, er mwyn cadw ansawdd y glaswellt mor uchel â phosib
Pa egwyddorion rheoli pori ydych chi’n cadw atynt? Mae cyrraedd y targed gweddillion yn allweddol i gynnal ansawdd, yn enwedig gan mai fferm ddefaid yn unig yw hon – ansawdd yw popeth!
Sut ydych chi’n delio ag amodau tywydd eithafol, megis sychder neu amodau pori gwlyb? Targedu padogau gwlyb/sych, gan ddibynnu ar y tywydd eithafol. A pharhau i’w symud; fe ddaw yn iawn yn y diwedd!