Pam y byddai Tom yn fentor effeithiol

 

  • Sefydlodd Tom y fenter Cae Tân CSA (Community Supported Agriculture) yn 2014.  Yn un o'r mentrau garddwriaeth gymunedol gynaliadwy mwyaf yng Nghymru, mae'n parhau i fod wrth y llyw fel cyfarwyddwr a thyfwr.  Mae’r cnydau'n amrywiol a thymhorol gan gynnwys tatws, cnydau bresych, cennin, winwns/nionod, moron, pannas, betys, tomatos, planhigion wy, pupurau, ciwcymbrau, sgwash, courgettes, india-corn ac ati. 
  • Ar hyn o bryd mae'n cyflenwi tua 135 o aelwydydd yn ardal Abertawe/Gŵyr gyda chynnyrch wythnosol o ddau safle sy'n dod i gyfanswm o wyth erw, mae'r busnes hwn yn cyflogi dau dyfwr, swyddog addysg a gweinyddwr swyddfa.
  • Mae rhaglen ysgolion yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn, gyda hyfforddeion gwadd - 14 hyd yma - yn helpu saith mis o'r flwyddyn.  Mae hyfforddeion yn cael eu cefnogi yn eu prosiectau neu eu cyflogaeth eu hunain. Mae gwirfoddolwyr, pobl ifanc, ffoaduriaid a grwpiau anodd eu cyrraedd yn cael eu cynnal dau ddiwrnod yr wythnos.  
  • Mae Tom yn angerddol am ei waith ac mae ganddo hanes gwych o gefnogi eraill sydd am gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen i redeg eu mentrau ffermio/garddwriaeth cynaliadwy eu hunain.  Ar ôl blynyddoedd lawer o weithio yn y sector hwn, mae wedi ennill arbenigedd sylweddol wrth gynllunio a darparu mentrau garddwriaeth organig a bioddynamig effaith isel ymarferol ac mae ganddo brofiad o gynlluniau'r llywodraeth, y gymuned a'r sector preifat. Mae'n rhedeg rhaglen hyfforddi ar-lein mewn partneriaeth â Rhwydwaith CSA y DU. 
  • Yn wybodus, yn frwdfrydig ac yn agored ei feddwl, mae eisoes yn un o'r mentoriaid a'r hyfforddwyr blaenllaw ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yn y DU.  Yn awyddus i ysbrydoli ac annog newydd-ddyfodiaid i naill ai gychwyn neu ddatblygu eu busnesau eu hunain yn ei sector sy'n tyfu, mae'n edrych ymlaen at ei rôl fentora ddiweddaraf gyda Cyswllt Ffermio.  

Busnes fferm presennol

 

  • Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) yw Cae Tân CSA (Community Supported Agriculture). Wedi'i leoli dros wyth erw ger Abertawe, mae'r busnes yn ymgorffori cynhyrchu cynaliadwy ar raddfa maes, cnydau twnnel polythen dwys, system amaethgoedwigaeth, coedlannau pren, pyllau ac ardaloedd bywyd gwyllt.  Mae ffrwythlondeb yn seiliedig ar system dyfu cylchdro, gan ddefnyddio tail gwyrdd a gwastraff organig wedi'i fewnforio o'r ardal.  Mae tyfu a chynaeafu yn cael ei wneud yn bennaf gan ddefnyddio ystod o offer llaw yn ogystal â dau dractor bach a pheiriannau eraill. 
  • Ar hyn o bryd mae Cae Tân CSA yn tyfu bwyd i 135 o aelwydydd lleol drwy gydol y flwyddyn. Caiff aelodau eu recriwtio ar lafar gwlad a chyfryngau cymdeithasol. Maent yn talu ymlaen llaw bob mis sy'n rhoi'r hawl iddynt gael cyfran wythnosol yn y cynhaeaf. Caiff y cynnyrch ei hel a'i bacio a'i gasglu gan aelodau o hwb lleol. Nid oes amser yn cael ei wastraffu mewn marchnadoedd nac yn gwneud cludiadau. Nid oes unrhyw wastraff cnwd ac mae unrhyw ddeunydd pecynnu a ddefnyddir yn fioddiraddadwy. Caiff unrhyw lysiau sydd heb eu casglu eu rhoi i fanciau bwyd.   
  • Mae Cae Tân yn cael cyhoeddusrwydd drwy ei wefan ei hun http://www.caetancsa.org/en/ yn ogystal â thrwy Facebook ac Instagram. 

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad 


05/02   Prifysgol Cymru Aberystwyth - BSc Ffermio Organig  
02/01     Coleg Milfeddygol ac Amaethyddol Brenhinol KVL, Copenhagen
  

  • Arbenigedd Ewropeaidd mewn Ffermio Organig (ERASMUS)
  • Cwrs haf dwys 'The Human Context of Organic Farming’

Hyfforddiant/ymchwil ychwanegol

06/07        Rhaglen Hyfforddiant o Bell Rhyngwladol (Tystysgrif mewn                 amaethyddiaeth fioddynamig) 
10/04        Hyfforddiant garddwriaethol ar raddfa fach organig – HDRA / Garden Organic

Profiad

2014 – hyd yn hyn: Sylfaenydd, tyfwr a chyfarwyddwr Cae Tân CSA. 
2010 – hyd yn hyn: Cynghorydd garddwriaethol i brosiectau tyfu ledled y DU 

Gyda Social Farms & Gardens, Rhwydwaith CSA y DU, Gweithwyr y Tir yn darparu ymgynghori, mentora, hyfforddiant (ar-lein ac wyneb yn wyneb).  
2011 – 2014: Asesydd Cwrs Ar-lein ar gyfer The Biodynamic Education Centre - NSW, Awstralia
2011 – 2013: Swyddog Prosiect Garddwriaethol ac Arloeswr Datblygu Cynaliadwy - Sir Benfro

2009 – 2011: Swyddog Prosiect Garddwriaethol – Prosiect Down to Earth, Penrhyn Gŵyr
2006 – 2008: Swyddog Prosiect Garddwriaethol – Menter Y Felin Uchaf, Pen Llŷn
2003 – 2005: Swyddog Cynaliadwyedd yn rhan-amser - Ecodyfi, Machynlleth
2003 – 2005: Garddwriaethwr Masnachol - Ynyslas, Aberystwyth
1994 – 1998: Therapydd Garddwriaethol - Cymuned Camphill, Iwerddon

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes


"Crëwch gynllun busnes realistig sydd wedi’i ystyried yn fanwl." 
"Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y profiad perthnasol neu gefnogaeth y rhai sy'n gwneud hynny." 
"Blaenoriaethwch eich llwyth gwaith a'i rannu'n synhwyrol er mwyn osgoi gorweithio."