Cyflwynir gan Mabbett & Associates.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithdai ar-lein ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a symud tuag at Sero Net. Fe’u cyflwynir gan Mabbett & Associates.
Trosolwg o'r Gweithdy
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar sut i leihau gwastraff bwyd a deunydd pecynnu. Bydd yn edrych ar ‘Yr Hierarchaeth Gwastraff Bwyd’ sy’n cynnwys atal gwastraff, ailddefnyddio bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl, ac ailddefnyddio bwyd mewn bwyd anifeiliaid ayyb. Bydd yr wybodaeth yn eich galluogi i dargedu ‘mannau poeth’ gwastraff a charbon a rhoi mentrau ar waith a fydd yn arwain at y newid mwyaf effeithiol.
Ymhlith y pynciau dan sylw mae:
- Yr Hierarchaethau Gwastraff
- Atebion i Leihau Gwastraff Bwyd a Deunydd Pecynnu
- Deunydd Pecynnu Cynaliadwy
- Cyfleu eich camau i Ddatgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Deunydd Pecynnu
Canlyniadau Dysgu:
- Byddwch yn ymwybodol o’r angen i symud y sector Bwyd a Diod tuag at Sero Net, gan ganolbwyntio ar yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â gwastraff bwyd.
- Byddwch yn gyfarwydd â’r Hierarchaeth Wastraff a sut i roi’r arferion gorau o ran rheoli gwastraff ar waith mewn perthynas â bwyd a deunydd pecynnu.
- Byddwch yn ymwybodol o ‘wir gost’ gwastraff bwyd a deunydd pecynnu trwy edrych ar yr effeithiau ariannol a busnes cudd.
- Byddwch yn ymwybodol o amrywiaeth o gamau gweithredu o ran datgarboneiddio gwastraff bwyd a deunydd pecynnu y gallai eich sefydliad eu rhoi ar waith. Byddwch hefyd yn gyfarwydd â thechnegau mesur, monitro a thargedu.
- Byddwch yn gallu cyfleu i eraill sut y bydd camau i ddatgarboneiddio gwastraff bwyd a deunydd pecynnu yn cefnogi eich sefydliad gyda'i broses ddatgarboneiddio.
Bydd y gweithdai’n digwydd ar-lein ac maen nhw wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu ym maes bwyd a diod.
Maen nhw’n weithdai rhagweithiol ac yn caniatáu digon o drafodaeth er mwyn i’r rhai sy’n cymryd rhan allu rhannu eu profiad eu hunain trwy sesiynau grŵp. Bydd hefyd amser i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr.
Ar ôl y gweithdy, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu mynd i sesiwn un-i-un 30 munud o hyd – sy’n rhad ac am ddim – gyda thiwtor y cwrs.
Ymunwch â ni i ddarganfod sut gallwch chi roi’r newidiadau hyn ar waith i’ch busnes.