Ym mis Chwefror a mis Mawrth, mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn cynnal cyfres o weithdai a fydd yn rhoi trosolwg o sawl pwnc diogelwch bwyd allweddol i fusnesau bwyd a diod Cymru.
Caiff y digwyddiadau eu cynnal ar Gampws Llandaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar y gofynion allweddol a nodir yn Rhifyn 9 Safon Fyd-eang BRCGS ar gyfer Diogelwch Bwyd, ond gellir cymhwyso’r un egwyddorion i unrhyw safle cynhyrchu bwyd a diod.
Gweithdy Archwilio Mewnol Effeithiol
20 Chwefror 2024, 10yb - 1yp
Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer archwilwyr a rheolwyr hyfforddedig sydd am ddatblygu eu systemau archwilio mewnol.
Gweithdy Diwylliant Diogelwch ac Ansawdd Bwyd
22 Chwefror 2024, 10yb - 1yp
Bydd y gweithdy hwn yn rhoi dealltwriaeth i’r cynrychiolwyr o ddiwylliant diogelwch ac ansawdd bwyd. Bydd y cynrychiolwyr yn dysgu am adnoddau ar gyfer asesu diwylliant diogelwch ac ansawdd bwyd a sut i ddatblygu cynllun gweithredu.
Gweithdy Dadansoddi Gwraidd y Broblem
27 Chwefror 2024, 10yb - 1yp
Mae dadansoddi gwraidd y broblem yn rhywbeth sylfaenol er mwyn cadarnhau pam fod diffyg cydymffurfiaeth wedi digwydd. Mae’n broses hanfodol er mwyn osgoi ailadrodd – ond a ydych chi wir yn deall sut i gwblhau dadansoddiad o wraidd y broblem yn dda?
Gweithdy Amddiffyn Bwyd
7 Mawrth 2024, 10yb - 1yp
Mae'n hanfodol bod gan gynhyrchwyr bwyd a diod systemau ar waith i sicrhau nad yw diogelwch eu cynhyrchion gorffenedig yn cael ei beryglu trwy weithredoedd maleisus, ymyrraeth neu bersonau heb awdurdod. Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n ymwneud â pharatoi, gweithredu neu adolygu asesiadau bygythiad amddiffyn bwyd.