Fel rhan o Gynllun Adfer ar ôl Covid-19 Bwyd a Diod Cymru, bydd Levercliff yn cyflwyno cyfres o 10 gweminar ym mis Ionawr 2021 wedi’u cynllunio i roi Gwybodaeth am y Farchnad Fanwerthu i gynhyrchwyr Bwyd a Diod yng Nghymru yn ymwneud â chategorïau perthnasol.
Mae’r farchnad Fanwerthu yn wynebu cyfnod o dwf mawr oherwydd bod ymddygiad defnyddwyr wedi newid yn dilyn Covid-19 ac yn sgil y ffaith bod y sianel Gwasanaeth Bwyd bron â chau. Mae’r rhagolygon yn awgrymu mai Manwerthu fydd y brif sianel am flynyddoedd lawer i ddod wrth i’r Gwasanaeth Bwyd adfer yn araf. Felly, mae’n hanfodol bod cynhyrchwyr Cymru yn cael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf am Fanwerthu i lywio penderfyniadau y byddant yn eu gwneud yn eu busnes.
Bydd pob gweminar yn canolbwyntio ar gategori penodol ac yn rhoi’r cipolwg diweddaraf ar y Farchnad Fanwerthu gan ddefnyddio Data Pwynt Gwerthu Electronig Nielsen.
Bydd y gweminarau o fudd penodol i gynhyrchwyr sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi nifer o fanwerthwyr, neu sy’n gobeithio gwneud hynny cyn bo hir, ond byddant hefyd yn berthnasol i gynhyrchwyr sy’n cyflenwi’r Gwasanaeth Bwyd neu’n Uniongyrchol i’r Defnyddiwr.
Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweminarau yn derbyn y cyflwyniad a diweddariadau ar berfformiad y categori bedwar mis yn olynol, gan ddefnyddio’r data diweddaraf.
Cliciwch gategori o’ch dewis isod i gofrestru eich diddordeb.
08/01/2021 |
Gweminarau Llywodraeth Cymru - Cacennau 11.00am-12.00pm
|
Gweminarau Llywodraeth Cymru – Prydau Parod
|
15/01/2021 |
Gweminarau Llywodraeth Cymru – Bariau Grawnfwyd
|
Gweminarau Llywodraeth Cymru – Pasteiod a Chacennau Crwst
|
19/01/2021 |
Gweminarau Llywodraeth Cymru – Nwyddau’r Bore
|
Gweminarau Llywodraeth Cymru - Caws
|
22/01/2021 |
Gweminarau Llywodraeth Cymru - Bara
|
Gweminarau Llywodraeth Cymru – Hufen Iâ
|
29/01/2021 |
Gweminarau Llywodraeth Cymru – Taeniad Melys
|
Gweminarau Llywodraeth Cymru - Iogwrt
|