Cafodd Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru (Prif bartner), partneriaid traws-lywodraethol Llywodraeth Cymru – Arloesi Iechyd, Addysg, Caffael, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Innovate UK, Strategaeth arloesi ei anrhydeddu ochr yn ochr â goreuon cymuned gaffael Cymru yn ddiweddar yng Ngwobrau GO Cymru, Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus, a gynhaliwyd ar 19 Mehefin.
Mae Gwobrau GO Cymru yn cydnabod rhagoriaeth ym maes caffael yn y sector cyhoeddus, yn dathlu rôl sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector o ran cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac, am y pedair blynedd diwethaf, wedi bod yn feincnod ar gyfer mesur cynnydd mewn comisiynu yn y sector cyhoeddus yn y wlad hon.
Trefnwyd i Wobrau GO Cymru gael eu cynnal ym mis Mawrth yn wreiddiol: fodd bynnag, oherwydd pandemig COVID-19 cymerodd trefnwyr y digwyddiad – BiP Solutions – y cam mentrus o greu seremoni yn gyfan gwbl ar-lein, er mwyn gallu cydnabod gwaith gwych ymarferwyr caffael yng Nghymru.
Roedd enillwyr eleni yn cynnwys rhai o brif arloeswyr caffael y wlad, gan gynnwys sefydliadau fel y DVLA, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ewch i http://www.goawards.co.uk/Wales i gael rhagor o fanylion, ac i weld recordiad o’r seremoni wobrwyo yn ei chyfanrwydd.
Gwobrau GO Cymru 2020 - Dathlu Rhagoriaeth ym Maes Caffael Cyhoeddus.
Gwobr Arloesi ym maes Caffael y Flwyddyn