Mae trawstoriad o brif gynhyrchwyr diodydd Cymru ar fin derbyn archebion gan rai o brif grwpiau o dafarnau’r DU, gan fod gan Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru stondin yn PUB20.    

Mae cefnogaeth Clwstwr Diodydd Cymru wedi galluogi 15 o fragwyr cwrw crefft, distyllwyr artisan a chynhyrchwyr diodydd meddal i fynychu unig sioe fasnach benodol y DU ar gyfer y diwydiant tafarnau, sef PUB20, a ddychwelodd heddiw (4 Chwefror 2020) i Olympia, Llundain am y bedwaredd flwyddyn. 

Mae’r sioe wedi’i chynllunio i alluogi prynwyr a phenderfynwyr allweddol o ‘fewnfasnach’ y wlad – sy’n cynnwys tafarnau, bariau, clybiau a dosbarthwyr diodydd – i ddarganfod cynhyrchion y gall eu cwsmeriaid eu mwynhau ledled y wlad.

Mae cadwyni cenedlaethol bob amser yn cadw llygad barcud am rywbeth newydd ac mae PUB20 yn gyfle perffaith i wneud hyn. Gallai sgwrs gyda chynhyrchwyr diodydd o Gymru arwain at werthu eu cynnyrch ar hyd a lled Prydain.   

Yn ogystal â’r prif enwau ar y stryd fawr fel J.D. Wetherspoon, Stonegate, Marston’s, Fuller’s a Greene King, bydd llawer o dafarnau annibynnol yn mynychu PUB20 i chwilio am rywbeth ‘unigryw’ nad yw eu cwsmeriaid wedi’i weld o’r blaen. Nid yw’r cyfleoedd i gwmnïau o Gymru wedi’u cyfyngu i gynhyrchwyr alcohol yn unig, gan fod galw gan gwsmeriaid heddiw am amrywiaeth newydd a diddorol o ddiodydd meddal, te a choffi.

Yn sgil llwyddiant yn nigwyddiad PUB19 y llynedd, gwelwyd cynhyrchwr o Gymru yn sicrhau nifer sylweddol o gontractau o ganlyniad i ymuno â stondin Bwyd a Diod Cymru a chefnogaeth Clwstwr Diodydd Cymru. 

Eleni, mae’r 15 cynhyrchydd o Gymru sy’n gobeithio efelychu’r llwyddiant hwnnw yn cynnwys bragwyr, distyllwyr a chynhyrchwyr diodydd meddal.  Ymhlith y bragdai sy’n gobeithio profi eu bod yn cynhyrchu’r peint perffaith mae Snowdon Craft Brewery, Bragdy Grey Trees, Brecon Brewing / Cold Black Label, Bragdy Conwy, Tudor Brewery, Bragdy Brains a’r Mad Dog Brewing Co.

Wrth siarad ar ran trefnwyr y stondin, dywedodd Mark Grant, sy’n arwain y Grŵp Cwrw a Seidr fel rhan o Glwstwr Diodydd Cymru:

“Mae gan Gymru hen hanes o gynhyrchu diodydd o safon, ond nid yw’r llwyddiant hwnnw wedi’i gyfyngu’n unig i waith ein bragwyr o’r radd flaenaf.  Yma yng Nghymru, rydyn ni’n cynhyrchu casgliad o ddiodydd alcoholig a di-alcohol o safon sy’n gallu cystadlu ar lefel ryngwladol. 

“Drwy weithio gyda’r cynhyrchwyr brwdfrydig hyn, rydyn ni’n gwybod bod cynhyrchion Cymru yn darparu rhywbeth newydd, gwahanol a chyffrous i ddefnyddwyr.  Mae’r cynhyrchion hyn a’u safon yn amlwg ar unwaith i’r penderfynwyr mewnfasnach sy’n mynychu PUB20. Drwy roi cyfle i fusnesau gwrdd â brandiau mawr wyneb yn wyneb, rydyn ni’n agor y drws i frandiau o Gymru at rai o’r cadwyni tafarn mwyaf ym Mhrydain.”

Ymhlith y rheini sy’n arddangos eu cynnyrch Cymreig mae Halen Môn / Jin Môr, Tenby Gin, Distyllfa Coles, Distyllfa Aber Falls a Wye Valley Meadery. Yno hefyd i brofi nad oes angen alcohol arnoch i gynhyrchu cynnyrch o safon fydd y crëwr diodydd arbenigol, Conwy Kombucha, a’r cynhyrchydd diodydd llaeth organig, Daioni Organic.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Bydd PUB20 yn gyfle i gynhyrchwyr diodydd o Gymru arddangos eu cynnyrch anhygoel a sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i ennill contractau proffidiol.

“Rydyn ni’n benderfynol o gefnogi busnesau ar draws ein sector bwyd a diod ffyniannus, sydd wedi cyflawni’r trosiant uchaf erioed yn ddiweddar, sef £7.473 biliwn yn 2019, flwyddyn yn gynt na’r disgwyl, drwy eu helpu i gyrraedd marchnadoedd newydd a meithrin cysylltiadau yn y diwydiant.”

 

 

 

Share this page

Print this page