Gyda dros 150 o gynhyrchion o Gymru yn cael eu cydnabod yn gynharach eleni yng ngwobrau mawreddog Great Taste, bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC yn cynnal dathliad yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd ddydd Mawrth Tachwedd 2018.
Yn cael ei gyflwyno gan y darlledwr a Chadeirydd gwobrau Great Taste, Nigel Barden, bydd y digwyddiad ar ffurf arddangosfa i ddathlu llwyddiant y cynhyrchwyr yn 2018, yn ogystal â sesiwn Cwrdd â’r Cynhyrchwyr, i arddangos eu cynnyrch arobryn af lefel genedlaethol i brynwyr bwyd, manwerthwyr, y cyfryngau a bywyd cyhoeddus ehangach Cymru.
Mae uchafbwyntiau’r digwyddiad yn cynnwys:
- Cyfle un i un i siarad gyda chynhyrchwyr o Gymru oedd yn llwyddiannus yn y gwobrau Great Taste a chael blas ar eu cynnyrch, gan gynnwys Caws Teifi Cheese, enillydd y wobr Fforc Aur o Gymru
- Arddangosfa o rai o gynhyrchion gorau gwobrau Great Taste o bob cwr o Gymru
- Arddangosiadau gan gogyddion
Darperir cinio bys a bawd gan ddefnyddio cynhyrchion arobryn Great Taste.
Hefyd bydd cyfle i fynychu cyflwyniad ar ymchwil diweddar a gyhoeddwyd ar y sector manwerthu yng Nghymru dan y teitl ‘Manwerthu Cyfleustra yng Nghymru’ a gynhelir am 2.00yp.