Wrth i nifer o fusnesau baratoi i ailagor yn bwyllog mae un safle bwyd yn y gogledd wedi bod yn ailddylunio ei adeilad er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn teimlo’n ddiogel wrth iddyn nhw fentro allan i siopa.

Caffi a deli yng nghanol Caernarfon yw Bonta Deli, a chyd-ddigwyddiad llwyr oedd iddo ddathlu ei ail ben-blwydd ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cyfnod clo. Fel nifer o fusnesau eraill tebyg gorfu iddo addasu i ffyrdd newydd o weithio wrth i fwrlwm arferol canol y dref dawelu oherwydd bod pawb yn aros gartref i osgoi dal a lledaenu Covid-19.

Dywedodd y perchennog Deborah Sagar,

“Ar ôl sylweddoli na allai pobl ddod aton ni penderfynon ni, fel nifer o fusnesau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, y bydden ni’n mynd atyn nhw, felly dechreuon ni gludo pecynnau bwyd hanfodol i bobl yn ardal Caernarfon. Mae elfen honno ein gwaith wedi tyfu yn ystod y misoedd diwethaf ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n cwsmeriaid ffyddlon.

“Fodd bynnag, rydyn ni nawr eisiau agor y siop eto wrth i fusnesau ailddechrau, ond wrth reswm rydyn ni wedi newid cynllun y siop a’r ffordd rydyn ni’n gweithredu er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid a staff yn teimlo mor ddiogel â phosibl.”   

Roedd dau lawr i fusnes Bonta Deli gyda’r delicatessen ar y llawr gwaelod a’r caffi ar y llawr cyntaf, ond mae’r cyfan wedi newid nawr, fel yr eglura Deborah,

“Rydyn ni wedi gorfod cau’r caffi am y tro a dim ond ar y llawr gwaelod y byddwn ni’n gweini – gall cwsmeriaid ddod i mewn i’r siop at y cownter un ar y tro ac rydyn ni wedi gosod sgriniau Perspex a byddwn ni’n darparu deunyddiau glanhau priodol ar gyfer cwsmeriaid. Bydd un aelod o staff yn gweini ac un arall yn y gegin, a phawb yn dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

“Gan ein bod ni yng nghanol y dref roedd hi’n arfer bod yn brysur iawn yma yn ystod y dydd ond diflannodd yr holl fusnes dros nos. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n dychwelyd rywbryd ond am nawr rydyn ni’n mynd i addasu a pharhau i wasanaethu ein cwsmeriaid yn y ffordd orau, a mwyaf diogel posibl.”

Mae busnesau bwyd a diod ledled Cymru wedi gorfod addasu’n sylweddol yn ystod pandemig Covid-19 ac mae hynny’n dyst i’w gwydnwch yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

Dywedodd y Gweinidog: “Does dim dwywaith bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’r diwydiant bwyd a diod, ond mae busnesau fel Bonta Deli wedi dangos sut y gallan nhw ymateb yn gyflym ac yn briodol i sefyllfa sy’n newid yn sydyn.

“Wrth i fusnesau ddechrau ailgychwyn eu gwaith, er bod hynny o dan amgylchiadau gwahanol iawn, hoffwn annog pobl i barhau i gefnogi diwydiant bwyd a diod Cymru, gan ei fod yn rhan mor allweddol o economi Cymru.

“Rydyn ni’n cymryd camau bychain ar y llwybr allan o’r cyfnod clo, ond maen nhw’n gamau hanfodol yn ein hadferiad ac rwy’n siŵr y bydd busnesau bwyd a diod Cymru yn gwerthfawrogi eich busnes wrth iddyn nhw deithio’n raddol tuag at amodau masnachu cyn-Covid 19.”   

 

Share this page

Print this page