Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru wedi dychwelyd o Japan yn ddiweddar, lle maent wedi bod yn hyrwyddo’r gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn arddangosfa bwyd a diod fwyaf Asia.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mynychodd saith cynhyrchydd bwyd a diod o Gymru Foodex Japan, o dan faner Cymru/Wales, gyda llawer yn dychwelyd wedi gwneud cysylltiadau newydd pwysig, a fydd, gobeithio, yn arwain at archebion proffidiol.

Ymhlith yr arddangoswyr o Gymru roedd Calon Wen, Castle Dairies, Edwards – Y Cigydd Cymreig, Glamorgan Brewing, Hybu Cig Cymru, Mydflower a Tŷ Nant.

Roedd allforion bwyd a diod o Gymru i wledydd y tu allan i’r UE werth £203m yn 2022, cynnydd mawr o £176m yn 2021. Mae hyn hefyd yn gynnydd sylweddol dros y tymor hwy, wedi cynyddu £58m ers 2018. Gwerth allforion bwyd a diod o Gymru i Asia ac Ynysoedd y De yn 2022 oedd £47m.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Gogledd Cymru a'r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae Foodex Japan yn ddigwyddiad pwysig i gwmnïau bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel, creu cysylltiadau gwerthfawr ac ehangu eu hallforion mewn gwlad sy’n adnabyddus am ei diwylliant bwyd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig nifer o raglenni i gynorthwyo busnesau sy’n mynychu digwyddiadau masnach ar lwyfan y byd, fel Foodex, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â’r tîm a darganfod sut y gallwn helpu.”

Mae Foodex Japan yn ddigwyddiad pedwar diwrnod, a gynhaliwyd yn Tokyo Big Sight, a chroesawyd dros 2,500 o gwmnïau bwyd a diod blaenllaw o fwy na 60 o wledydd a rhanbarthau yno. Mae'n ganolbwynt ar gyfer nifer o drafodaethau busnes gyda phrynwyr bwyd a diod blaenllaw o bob rhan o Asia, yn ogystal â Japan. Mae’n gyfle allweddol i hyrwyddo ac adeiladu ar enw da bwyd a diod o Gymru a chysylltu â chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth.

Roedd y brand bwyd Edwards – Y Cigydd Cymreig o Gonwy, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn un o’r cwmnïau ar stondin Cymru/Wales ac roedd Jeremy Stoker yn teimlo ei fod yn ymweliad gwerth chweil,

“Roedd Foodex yn gyfle gwych i ni arddangos ein cynnyrch ‘cig’ Cymreig o safon uchel i gynulleidfa ryngwladol. Roeddem yn falch iawn o gael ‘diddordeb’ gan y mynychwyr. Rydym yn llawn cyffro i barhau i adeiladu ein brand ac ehangu ein cyrhaeddiad yn y farchnad Asiaidd.”

Yn o’r cwmnïau eraill sy’n gobeithio derbyn archebion yw’r cwmni o dde-orllewin Cymru sy’n cynhyrchu gwinoedd pefriog sych gan ddefnyddio cynhwysion lleol traddodiadol, Mydflower Ltd, fel yr eglura Michael Dew-Veal,

“Mae digwyddiadau fel Foodex yn gyfle i ni arddangos ein cynnyrch i gynulleidfa eang ond mae hefyd yn gyfle i gwrdd â phrynwyr a chael cipolwg ar farchnadoedd newydd. Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn rhoi cyfle i ni geisio ehangu ein marchnad ymhellach.”

Denodd Castle Dairies o Gaerffili dipyn o ddiddordeb gyda’u detholiad o fenyn arobryn a menyn taenadwy, fel yr eglura David Cooknell,

“Roeddem wrth ein bodd yn mynychu Foodex ac arddangos ein cynnyrch i'r farchnad Asiaidd. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac roedd modd cysylltu â llawer o ddarpar gwsmeriaid. Nawr mae’n rhaid dilyn y diddordeb hwnnw a’i droi’n werthiant.”

Cynhaliwyd Foodex yn Tokyo Big Sight ar 5-8 Mawrth gyda 7 busnes Cymreig yn bresennol yn cael eu harddangos ar stondin Cymru/Wales.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes i gyrraedd marchnadoedd newydd mewn digwyddiad masnach ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/digwyddiadau-masnach

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes i allforio, ewch i https://businesswales.gov.wales/export/cy/homepagehafan.

Share this page

Print this page