Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (FDWIB), sef corff y diwydiant a sefydlwyd i hybu a chynnal twf y sector bwyd a diod yng Nghymru, ei gamau blaenoriaeth er mwyn helpu'r sector i ymadfer yn sgil effeithiau Covid-19.
Cafodd y pandemig effaith sydyn a sylweddol ar bron pob busnes a chadwyn gyflenwi ar draws y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, a chydnabyddir fod yna sialens anferth yn wynebu busnesau unigol i addasu a goroesi wrth i ni ddod allan o gyfnod cyntaf yr argyfwng. Mae'n bosibl y bydd yna gyfleoedd hefyd, a rhaid i ni fod yn hyblyg i gofleidio'r rhain er budd y diwydiant.
Cynllun interim yw Cynllun Adfer yn sgil Covid-19 FDWIB, ac fe'i lluniwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn amlinellu'r prif gyfryngau i helpu busnesau yn ystod y cyfnod unigryw yma. Mae'n cwmpasu'r sialensiau a'r cyfleoedd y mae'r diwydiant yn eu hwynebu, gyda map ffordd ymarferol i gynorthwyo busnesau trwy'r misoedd sydd i ddod.
Mae'n cynnwys cyngor busnes diriaethol o'r byd go iawn ar faterion fel hybu a datblygu gwerthu ar lein, adeiladu modelau busnes gwydn, rheoli risgiau, ychwanegu gwerth at gadwyni cyflenwi, cyllid fforddiadwy, achrediad y diwydiant, a hyfforddi a datblygu sgiliau.
Er bod y Cynllun Adfer wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r pandemig, bydd llawer o'i gynnwys ymarferol yr un mor berthnasol i fusnesau sy'n gweithredu yn y sector wrth iddynt wynebu'r newidiadau a'r sialensiau a fydd yn codi’n anochel wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ymhen chwe mis.
Yn rhan o ymgyrch y Bwrdd i hwyluso cysylltiadau uniongyrchol rhwng busnesau a Llywodraeth Cymru, a helpu i sicrhau'r llwyddiant gorau posibl ar gyfer y diwydiant yng Nghymru, cynhelir gweminar am 4.30pm dydd Mercher, 5 Awst, i gyfleu’r Cynllun Adfer yn sgil Covid-19 a chynnal trafodaeth agored arno.
Wrth siarad am y cynllun tymor byr ar gyfer y misoedd nesaf, dywedodd Cadeirydd FDWIB, Andy Richardson: "Bu argyfwng y coronafeirws yn dipyn o sioc i bawb pan darodd y pandemig ddechrau 2020. Yn anffodus, nid yw'r diwydiant bwyd a diod wedi dianc rhag effeithiau'r argyfwng, ond er gwaetha'n gofidiau ni, rydyn ni'n meddwl am y bobl hynny sydd wedi colli eu bywydau a'r rhai sydd wedi colli perthnasau, ffrindiau a chydweithwyr.
“Er bod rhai o fusnesau bwyd a diod Cymru wedi llewyrchu yn ystod yr argyfwng, mae llawer mwy wedi cael eu taro'n galed ac yn parhau i weld yr effeithiau. Fel Bwrdd, ein haddewid i holl fusnesau bwyd a diod Cymru yw y byddwn ni'n parhau i frwydro dros ein diwydiant a darparu'r cynllun adfer sydd ei angen ar y sector nawr.”
Wrth gefnogi'r cynllun adfer, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi chwarae rhan flaenllaw wrth fwydo'r genedl yn ystod yr argyfwng digynsail yma, a hoffwn fynegi fy niolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino i gynnal cadwyni cyflenwi.
“Nawr rhaid i ni edrych tua'r dyfodol, a nod y camau a gyhoeddwyd heddiw yw cynorthwyo'r rhannau hynny o’r diwydiant y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt.”
Os oes diddordeb gennych fynychu'r weminar ar adferiad y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ar 5 Awst, cofrestrwch eich diddordeb trwy e-bostio Bwyd-Food@gov.wales. I ddarllen Cynllun Adfer yn sgil Covid-19 y Bwrdd, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/covid-19-bwyd-diod-cymru.