Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn annog y teimlad o undod y Nadolig hwn trwy gydweithio i greu ystod unigryw o focsys rhoddion a hamperi ar gyfer siopwyr.

Dyma'r tro cyntaf i'r cyfuniadau cynnyrch cyffrous hyn ddod ynghyd. Yn llawn bwyd a diod o Gymru, mae'r bocsys rhoddion a’r hamperi yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n caru bwyd melys a sawrus fel ei gilydd - ynghyd ag ychydig o ddiodydd a danteithion. Ar gael mewn amrywiaeth o feintiau a phrisiau, maent yn sicr o weddu i bob poced a chwaeth.

Mae deg cynhyrchydd bwyd a diod o Gymru yn manteisio ar y cydweithredu gan
ddod â busnesau ynghyd, casglu'r nwyddau, a gweithredu fel pwynt gwerthu ar gyfer
siopwyr. Gellir dod o hyd i'r holl focsys rhoddion a hamperi ar Fap Cynhyrchwyr Cywain (cywain.cymru) sy'n ehangu o hyd, ac maent hefyd ar gael i'w prynu'n uniongyrchol oddi wrth:

Distyllfa Aber Falls (www.aberfallsdistillery.com(link is external))

Black Mountains Smokery (www.smoked-foods.co.uk(link is external))

Blas ar Fwyd (www.blasarfwyd.com(link is external))

Bluestone Brewing Company (www.bluestonebrewing.co.uk(link is external))

Calon Wen (www.calonwen-cymru.com/direct/(link is external))

Caws Cenarth (www.cawscenarth.co.uk(link is external))

Cwmfarm Charcuterie Products (www.cwmfarm.co.uk(link is external))

Daffodil Foods (www.daffodilfoods.co.uk(link is external))

Rhug Estate Organic Farm (www.rhug.co.uk(link is external))

Wye Valley Producers (www.wyevalleyproducers.co.uk(link is external))

Mae'r bocsys rhoddion a hamperi yn cynnwys pob math o gynnyrch o Gymru, gyda mwy na 50 o gwmnïau bwyd a diod yn cymryd rhan ac yn cynnig popeth o gacennau, cig a siytni i pâté, cwrw, siocled a chaws. 

Yn eu plith, mae jamiau o'r Preservation Society, danteithion melys gan Gwmni Wickedly Welsh Chocolate, sawsiau a sbeisys gan Maggie's Exotic Foods, diodydd pefriog premiwm o Radnor Hills, pâté o Patchwork Foods, caws o gwmni Caws Teifi, a byrbrydau crefftus wedi’i cochi o Trailhead Fine Foods.

Mae llawer o'r cynhyrchwyr sydd wedi'u cynnwys yn y bocsys rhoddion a’r hamperi wedi'u dwyn ynghyd gan fenter Clwstwr Bwyd Da Cymru, sy'n meithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector. 

Fel rhan o'r bocsys rhoddion a’r hamperi, mae'r Clwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru wedi darparu deunyddiau marchnata a grëwyd yn arbennig i gynhyrchwyr sy'n tynnu sylw at eu gweithgaredd ar y cyd ac yn annog cwsmeriaid i #CefnogiLleolCefnogiCymru.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Clwstwr Bwyd Da Cymru yn cael ei hwyluso gan brosiect Cywain. Wedi'i gyflwyno gan Menter a Busnes, mae prosiect Cywain yn cefnogi datblygiad busnesau sy'n canolbwyntio ar dwf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Trwy ddilyn y categori 'Anrhegion a Hamperi' ar Fap Cywain, bydd siopwyr yn cael eu harwain at focsys rhoddion a hamperi Clwstwr Bwyd Da Cymru y gellir eu harchebu'n uniongyrchol trwy wefannau'r cynhyrchwyr.

Dywedodd Arweinydd Tîm y Clystyrau, Sioned Best, “Trwy gydweithio, mae cwmnïau bwyd a diod Cymru wedi creu rhywbeth arbennig sydd nid yn unig yn ymgorffori ysbryd cydweithredu, ond ysbryd y Nadolig. Mae'r neges hon yn arbennig o bwysig ar adeg pan rydyn ni'n annog pobl i ddangos eu gwerthfawrogiad o gynhyrchwyr ac i #CefnogiLleolCefnogiCymru."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Mae'n wych bod dros 50 o gynhyrchwyr wedi dod at ei gilydd ac yn gweithio i'w gwneud hi'n haws fyth i'r cyhoedd gael gafael ar fwyd a diod o Gymru. Mae'r cydweithrediad hamper hwn yn enghraifft wych o'r egwyddor o glystyru ar waith.”

 

 

Share this page

Print this page