Nod popeth y mae FareShare Cymru yn ei wneud yw brwydro’n erbyn newyn, a mynd i’r afael â gwastraff bwyd. Cenhadaeth FareShare Cymru yw gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant bwyd a diod er mwyn atal bwyd sy’n ddi-fudd yn fasnachol rhag dod yn wastraff bwyd.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r diwydiant bwyd wedi wynebu rhwystrau ar ffurf problemau cenedlaethol a byd-eang sydd wedi effeithio ar y cyflenwad o fwyd dros ben. Mae’r rhain wedi cynnwys y rhyfel yn Wcráin; problemau â chadwyni cyflenwi byd-eang; heriau o ran llafur a recriwtio; pris tanwydd; yr argyfwng costau byw yn achosi prisiau ynni cynyddol, a thywydd eithafol. Pan fydd y diwydiant bwyd a diod yn cael ei effeithio gan ddigwyddiadau, mae hyn yn effeithio ar eu gallu i gael gafael ar fwyd dros ben er mwyn ei ailddosbarthu.
Er gwaetha’r heriau hyn fodd bynnag, fe wnaeth FareShare Cymru ailddosbarthu 1482 tunnell o fwyd, yr oedd 858 tunnell ohono yn fwyd dros ben. Mae hyn gyfwerth â mwy na 3.5 miliwn o brydau bwyd wedi eu darparu i bobl agored i niwed yng Nghymru. Yn ystod 2022-23, cefnogodd FareShare Cymru dros 200 o elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Torfaen, Bro Morgannwg, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin. Yng Ngogledd Cymru, fe wnaeth eu partneriaid FareShare Merseyside ddarparu bwyd i 33 o sefydliadau ar draws Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.