Mae grŵp newydd, sy’n dod â merched o ar draws y diwydiant pysgota yng Nghymru at ei gilydd ac yn amlygu eu cyfraniad pwysig ar draws y sector, wedi’i lansio gyda thon o gefnogaeth.

I ddechrau, cafodd grŵp Merched mewn Pysgodfeydd Cymru (WIWF) ei sefydlu er mwyn galluogi merched o fewn y diwydiant pysgota i gyfarfod (yn rhithiol ar hyn o bryd), rhannu profiadau a chodi ymwybyddiaeth am eu gwaith a’u bywydau mewn fforwm diogel a chefnogol.

Mae’r fenter yn cael ei hwyluso gan Glwstwr Bwyd Môr Cymru, prosiect a arweinir gan Cywain sy’n annog cydweithio rhwng cwmnïau ac unigolion o fewn y diwydiant bwyd môr.

Dywedodd Nia Griffith, Rheolwr Clwstwr Bwyd Môr Gogledd Cymru, “Trwy ein gwaith gyda’r Clwstwr Bwyd Môr, gwnaethom sylweddoli bod merched yn gwneud pob math o swyddi o fewn y diwydiant pysgota yng Nghymru. Ond, mae’r diwydiant pysgota yn parhau i ymddangos fel diwydiant lle mae dynion fwyaf blaenllaw.

“Roedd angen i ni wirio a oedd gan bobl diddordeb mewn sefydlu grŵp o’r fath fel rhywle lle all merched o’r un meddylfryd ddod yno i gael sgwrs ac i rannu profiadau. Trwy ymgynghori, roedd hi’n amlwg bod yna ddiddordeb gwirioneddol ymysg y grwpiau clwstwr, ac rydyn ni’n hynod falch bod Merched mewn Pysgodfeydd Cymru wedi cael ei ffurfio.”

Mae pedwar ffrwd gwaith wedi’u hadnabod: creu grŵp ffocws, rhoi cefnogaeth rhwydweithio, dysgu o arferion gorau (ymweliadau astudio a siaradwyr gwadd), a hyrwyddo Merched mewn Pysgodfeydd Cymru a’u gweithgareddau i aelodau newydd.

Cadeiriwyd y lansiad rhithiol gan Alison Lea-Wilson o Halen Môn, sy’n aelod o Fwrdd Bwyd a Diod Cymru ac yn gadeirydd ar Glwstwr Bwyd Da Gogledd Cymru. Cafwyd cyflwyniadau gan Ashley Mullenger – sy’n defnyddio’r enw The Female Fisherman ar y cyfryngau cymdeithasol - a Hannah Fennell, pennaeth yr Orkney Fisheries Association yn y digwyddiad. Hefyd, cafodd fideo ei ddangos a oedd yn cynnwys tair merch o Gymru, sy’n gweithio o fewn y diwydiant, yn rhannu eu barn a’u profiadau.

Dywedodd yr allforiwr o Sir Benfro, Nerys Edwards o Syren Shellfish, “Y canfyddiad am ferched o fewn y diwydiant pysgota yw eu bod nhw’n wragedd sy’n cefnogi eu gwŷr pan fyddant yn dychwelyd o’r gwaith, neu’n gyfrifol am y gwaith papur. Yn ein rolau go iawn, rydyn ni’n yrwyr lorïau, allforwyr, proseswyr, gwerthwyr pysgod, mecanyddion, perchnogion llongau, ac yn gapteiniaid.

“Ni’n gwybod y gallwn wneud beth bynnag y mynnwn, ac os ydym ni yma i gefnogi ein gilydd, daw hynny’n amlycach fyth. Mae yna ganfyddiad bod llawer iawn o swyddi o fewn y diwydiant pysgota yn rai i ddynion yn unig, ond gall merched wneud unrhyw beth y mae dynion yn ei wneud.”

Dywedodd hi, mae’r gallu i rannu profiadau gyda “rhywun sy’n deall” hefyd yn bwysig.

“Penderfynais ymuno â’r grŵp oherwydd pan ddechreuais i, roeddwn i’n gyrru lorïau ac roedd gwneud hynny’n unig iawn. Doedd ddim cyfleusterau, ac nid oedd unrhyw un arall fel fi yn gyrru ar draws y cyfandir gyda chregynbysgod. Byddai wedi bod yn braf ac yn eithaf cysurlon i allu cael sgwrs gyda rhywun ar adegau.”

Dywedodd y gwerthwr pysgod Jane Roche, o Catch of the Day yn Aberteifi, “Mae cael grŵp fel Merched mewn Pysgodfeydd Cymru wir yn gam pwysig ymlaen o ran sicrhau bod merched y diwydiant yn cael eu cefnogi, ond hefyd mae’n gyfle i annog rhagor o ferched i gymryd rhan o fewn y diwydiant er mwyn rhoi gwybod iddynt am ddigwyddiadau’r diwydiant a’r hyn y gallant ei wneud.”

Dywedodd Carol Evans, a oedd yn rhedeg busnes pysgota gyda’i gŵr ac sydd bellach yn gweithio gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, “Mae gwragedd ein pysgotwyr yng Nghymru yn gwneud cymaint o waith i sicrhau bod y busnesau’n parhau i redeg, gwneud yn siŵr bod gan y pysgotwyr gefnogaeth a sicrhau bod popeth yn iawn. Nhw yw’r arwyr di-glod.

“Os edrychwn ni yn ôl, mae gen i edmygedd mawr tuag at ein cyndeidiau a’r rôl hollbwysig y mae merched wedi chwarae wrth gyfrannu tuag at ein treftadaeth bysgota falch. A heddiw, mae gan ferched rôl hanfodol i’w chwarae o ran sicrhau dyfodol ein cymunedau pysgota.”

Dywedodd hi, “Mae wedi bod angen fforwm a grŵp cefnogi ar gyfer merched o fewn y diwydiant pysgota yng Nghymru “ers amser hir”.

“Rwy’n caru’r ffaith bod y grŵp yn rhoi llais i ni a lle i gwrdd â’n gilydd er mwyn cymdeithasu. Mae hefyd yn rhoi cymorth i ni a’r cyfle i rannu profiadau, gan godi ymwybyddiaeth a thrafod ein dyheadau ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.”

Gwnaeth Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a oedd yn bresennol yn lansiad Merched mewn Pysgodfeydd Cymru, longyfarch y grŵp ar ei ffurfiant gan ddweud bod ei aelodau yn fodelau rôl i ferched a fydd yn ymuno â’r sector yn y dyfodol.

Dywedodd hi, “Mae creu Merched mewn Pysgodfeydd Cymru yn ddatblygiad pwysig ac yn gyfle i bwysleisio’r rôl hanfodol y mae merched yn ei chwarae o fewn diwydiant sy’n ymddangos i rai fel bod dynion fwyaf blaenllaw ynddo. Bydd y grŵp yn rywle twymgalon lle mae pawb yn cefnogi ei gilydd. Rwy’n gobeithio bydd hynny’n fuddiol i lawer o ferched.

“Mae yna lawer o gyfleoedd i ferched o fewn y diwydiant bwyd môr, ac rwy’n sicr y bydd Merched mewn Pysgodfeydd Cymru yn helpu annog y genhedlaeth nesaf.”

Share this page

Print this page