Mae Pembrokeshire Lamb Ltd wedi derbyn y clod uchaf yng ngwobrau Great Taste Golden Fork 2021.

O'r 11 o gynhyrchion o Gymru a dderbyniodd yr anrhydedd uchaf o 3 seren aur yng ngwobrau Great Taste 2021, dyfarnwyd y Golden Fork from Wales i Pembrokeshire Lamb Ltd am eu Hysgwydd Hesbin.

Mae Pembrokeshire Lamb yn cynhyrchu cig oen, hesbin a chig dafad ar eu fferm deuluol fechan yng ngogledd Sir Benfro. Sefydlodd Steve a Kara Lewis y cwmni yn 2019, gyda’r nod o greu bocsys o gig cynaliadwy gyda’r mantra ‘ffres sydd orau’.

Wrth sôn am y cynnyrch 3 seren, dywedodd Steve Lewis o Pembrokeshire Lamb: “Daw ein hesbin sy’n cael ei fwydo gan laswellt o’n fferm deuluol yn Sir Benfro. Mae'n gyfoethocach ac yn ddyfnach o ran blas na chig oen ac mae'n cymryd blasau ychwanegol yn dda iawn. Mae'r ffordd rydyn ni'n magu a hongian ein hesbin yn arwain at gynnyrch tyner, blasus.”

Yn ogystal â chael 3-seren, enillon nhw hefyd 2-seren am eu Hysgwydd Cig Oen, Ysgwydd Cig Dafad, Briwgig Cig Dafad ac 1-seren am eu Byrger Unigryw sy'n cael ei wneud â chig dafad. Gwnaethon nhw hefyd dderbyn gwobrau 1-seren am eu Saws Brown a Rwb Cebab Indiaidd o dan y brand The Welsh Saucery.

Wrth sôn ymhellach am eu llwyddiant, ychwanegodd Steve:

“Rydyn ni wrth ein bodd i ennill y wobr Great Taste Golden Fork from Wales. Mae'n llwyddiant gwych i ni fod wedi ennill nifer o wobrau am ein cynhyrchion yn y gwobrau mawreddog hyn ac mae'n dyst gwirioneddol i'r gwaith caled rydyn ni fel teulu wedi'i roi i’r busnes."

Wrth longyfarch Pembrokeshire Lamb ar eu llwyddiannau, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS,

“Hoffwn longyfarch Pembrokeshire Lamb ar eu llwyddiannau yng ngwobrau Great Taste eleni. Mae'n wych gweld busnesau Cymru yn cael eu cydnabod am ansawdd rhagorol y bwyd maen nhw'n ei gynhyrchu.

“Mae'r beirniaid o'r Urdd Bwydydd Da wedi nodi cynnyrch o'r ansawdd uchaf o bob rhan o Gymru, sy’n adlewyrchu'r gwaith caled a'r creadigrwydd sy'n nodweddiadol o'n diwydiant bwyd o'r radd flaenaf.

“Dylai pawb yn Pembrokeshire Lamb fod yn falch iawn a hoffwn ddymuno'r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.”

Mae Great Taste, a drefnir gan yr Urdd Bwydydd Da, yn cael ei gydnabod ymysg defnyddwyr a manwerthwyr fel arwydd o ragoriaeth a’r cynllun achredu bwyd uchaf ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, ac fe’i disgrifir fel ‘Oscars’ y byd bwyd.

Mae 270 o gynhyrchion Cymreig eithriadol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yn y gwobrau, gyda 190 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 69 yn derbyn 2-seren ac 11 yn ennill clod uchel gyda 3-seren.

Mae Great Taste yn gwerthfawrogi blas yn anad dim arall, heb ystyried brandio na phecynnu. Mae'r holl gynhyrchion yn cael eu tynnu o'u pecynnau cyn cael eu blasu. Mae'r beirniaid annibynnol sy'n cynnwys cogyddion llwyddiannus, ysgrifenwyr coginio, beirniaid bwyd, perchnogion bwytai a manwerthwyr bwydydd da yn arogli, yn trafod ac yn ail-flasu i benderfynu pa gynhyrchion sy'n deilwng o wobr 1-, 2- neu 3 seren.

Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr Great Taste Awards eleni yn www.greattasteawards.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Pembrokeshire Lamb, ewch i https://www.pembrokeshirelamb.co.uk/

Share this page

Print this page