Yn ddiweddar, ymgeisiodd Sarah John, 33, o Abertawe yng nghategori Aphrodite Gwobrau blynyddol NatWest Everywoman ac mae wedi derbyn clod arbennig yng nghylchgrawn Inspire y Daily Mail fel un o'r chwe mampreneur orau yn y DU.
Mae gwobr Aphrodite yn dathlu menywod sydd wedi dechrau busnes gyda phlentyn dan 12 oed, ac ar ôl sefydlu ei bragdy crefft Cymreig yn 2015 yn dilyn genedigaeth ei merch Esme, mae Sarah yn gwybod popeth am fanteision ac anfanteision bywyd busnes gyda phlentyn ifanc, fel mae’n esbonio:
"Cyn dechrau'r busnes, roeddwn i’n gweithio ym maes gwerthu a marchnata ond eisiau gweithio i mi fy hun. Rwy'n benderfynol ac uchelgeisiol iawn a gan i mi fod yn feichiog a chael fy merch ar yr un pryd â dechrau'r busnes dydw i ddim yn gwybod dim gwahanol.
"Mae bywyd o ddydd i ddydd yn brysur iawn, yn gofyn am dipyn o gydbwyso, ond rwy'n ei hoffi. Pan rydw i yn y gwaith rwy'n canolbwyntio ar waith ac yna gartref gallaf ganolbwyntio ar Esme. Roedd yn anodd ar y dechrau, yn enwedig pan oedd Esme yn fabi. Roeddwn i'n arfer mynd â hi i'm holl gyfarfodydd a hyd yn oed cynnal rhai cyfarfodydd gartref.
"Ond mae'r pum mlynedd diwethaf wedi hedfan heibio ac rydym ni wedi tyfu ac ehangu'n llawer cyflymach na'r disgwyl, sy'n rhyfeddol. Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd pandemig Covid-19 cafodd ein busnes ei daro dros nos gan fod tua 80% o'n trosiant yn dod o dafarndai. Ond daeth yn amlwg bod pobl yn dal I yfed cwrw gartref felly aethom ni ati i sefydlu ein siop ar-lein a symud ein ffocws i'r archfarchnadoedd, lle cynyddodd gwerthiant 50%."
Wrth siarad am yr erthygl yn y cylchgrawn dywedodd Sarah, "Roeddwn i'n synnu'n fawr - fy mhartner busnes oedd wedi cynnig fy enw, felly doedd gen i ddim syniad. Mae'n wirioneddol ganmoliaethus a phan rwy’n edrych ar y menywod eraill yn y categori, alla i ond teimlo’n ffodus iawn.
"Mae'n gydnabyddiaeth genedlaethol anhygoel yn enwedig gan fod y gwobrau mor uchel eu proffil. Mae bod yn y chwech uchaf ar gyfer y DU gyfan a chael fy nghanmol gan y Daily Mail a NatWest yn syfrdanol."
Mae Boss Brewing bellach yn cynnig mwy na dwsin cwrw golau a chwrw du, gan gynnwys cwrw siocled a charamel hallt; gellir prynu’r cwrw llwyddiannus yn Asda, Morrisons, Co-op a Tesco, a'r newyddion da yw bod Boss Brewing yn dal ar y trywydd iawn i gynyddu trosiant eleni i £750,000. Wrth edrych i'r dyfodol mae gan Boss Brewing gynlluniau pellach i ehangu, fel yr esbonia Sarah:
"Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yfed yn y cartref ac e-fasnach yn ogystal â gwerthu i grwpiau tafarndai cenedlaethol a manwerthwyr. Rydym ni’n ystyried cytundebau gydag Ocado ac Amazon, ac yn bwriadu ehangu ein siop ar-lein. Rydym ni eisoes yn allforio i Ganada a rhai gwledydd yn Ewrop ac yn gobeithio ehangu ymhellach i Japan, yr Eidal a Ffrainc.
"Er mwyn bod yn llwyddiannus mae'n rhaid i chi gredu yn eich cynnyrch a theimlo’n angerddol dros eich busnes. Rydym ni wedi bod yn lwcus iawn oherwydd rydym ni wedi ennill y busnes rydym ni wedi ei golli gyda thafarndai yn y sector yfed gartref."
Ychwanegodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Mae hyn yn gamp wych i Sarah a chwmni Boss Brewing yn Abertawe. Mae'n rhoi cwmnïau bwyd a diod o Gymru ar y map, gan arddangos ysbryd entrepreneuraidd gwych busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac yn enwedig y rhai sy'n cael eu harwain gan fenywod.
"Mae'n bwysig dathlu a nodi'r sylfaenwyr benywaidd ysbrydoledig y bydd eu creadigrwydd a'u gwydnwch yn ein helpu i oroesi'r storm economaidd bresennol gan fod Covid-19 yn effeithio ar sector bwyd a diod Cymru ac yn bygwth goroesiad busnesau.
"Yn yr hinsawdd bresennol, mae entrepreneuriaid ledled y wlad yn dangos eu hyblygrwydd a'u gweledigaeth wrth i'r galw am gynhyrchion a gwasanaethau newydd greu cyfle digynsail ar gyfer arloesedd a menter.
"Mae Llywodraeth Cymru, gan weithredu o dan y canllawiau ac ar gyngor Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, yn cymryd camau i gefnogi'r sector.
"Rydym ni eisiau cynyddu nifer y busnesau bwyd a diod sy'n goroesi ymyrraeth Covid-19 a chynnal rhwydweithiau'r gadwyn gyflenwi. Mae angen inni leihau colledion swyddi a chefnogi'r sector i wella a dychwelyd at dwf mewn gwerthiant. Felly, os yw eich busnes yn dioddef, mae'n hanfodol bod angen i chi gael y cymorth a'r cymorth sydd eu hangen."
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth COVID-19 i Fusnes gan Lywodraeth Cymru ewch i:
https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/covid-19-food-and-drink-wales
https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/
https://menterabusnes.cymru/home/