10 myth uchaf

Myth 1 Mae angen llawer o brofiad busnes arnoch…

Dydy hynny ddim yn wir; mae’n bosibl ennill profiad. Mae digon o bobl ifanc fel chi a ddechreuodd eu busnes tra yn yr ysgol, coleg neu brifysgol. Mae ysgogiad, egni, angerdd ac ymrwymiad yn hanfodol - ac o bosibl yn fwy gwerthfawr na blynyddoedd lawer o brofiad busnes. Nid oes gan lawer o entrepreneuriaid llwyddiannus unrhyw brofiad busnes cyn dechrau. Er hynny, mae’n rhaid i chi fod yn barod i ddysgu’n gyflym os nad oes gennych brofiad. 

Myth 2 Gallwch fod yn rhy ifanc i ddechrau busnes…

16 oed yn unig oedd yr entrepreneur ar-lein a’r aml-filiwnydd Jamal Edwards (@jamaledwards) pan sefydlodd y sianel darlledu ar-lein SBTV.Sefydlodd Joshua Magidson (@Magidson1) yntau www.eatstudent.co.uk tra’n y brifysgol ac 20 yn unig oedd Mark Zuckerman pan lansiodd Facebook. Nid yw oed yn rhwystr - os oes gennych syniad gwych, pa ots beth yw eich oedran. 

Myth 3 Mae’n rhaid i chi wybod sut i ysgrifennu cynllun busnes…

Mae cynllun busnes yn eich galluogi i osod nodau i’ch busnes, penderfynu ar strategaeth i’w cyflawni, barnu eich perfformiad a chadw ar ben ffordd. Ond sut fyddech chi’n gwybod beth i’w wneud os nad oeddech wedi ysgrifennu cynllun busnes o’r blaen?  Mae’n gofyn am ymchwil ac ymdrech, ond fel llawer iawn o bobl busnes ifanc – gallwch wneud hynny. Mae Canllawiau Busnes Cymru yn dangos i chi’n union sut i ddilyn camau rhwydd i baratoi eich cynllun gan gynnwys templad i chi ei ddefnyddio. A gallwch ofyn am help os oes angen hynny – mae cael barn rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo yn aml yn helpu.   

Myth 4 Mae’n rhaid i chi fod yn gyfforddus gyda risg…

Nid oes sicrwydd y bydd pethau’n gweithio allan. Mae’n bosibl y bydd angen gwaith ar eich syniad busnes, ond dydy hynny ddim yn broblem. Nid oes rhaid i chi wario llawer iawn o arian wrth lansio eich busnes na’i wneud fel menter llawn amser. I leihau’r risg, dechreuwch eich busnes gyda chyn lleied o arian ag sy’n bosibl. Dechreuwch fel menter ran-amser i’w rhedeg o gwmpas pethau eraill. Profwch y dŵr cyn gwneud mwy o ymrwymiad. Nid oes rhaid i chi gymryd risgiau.

Myth 5 Mae angen llawer o arian arnoch i ddechrau busnes…

Dylech geisio dechrau eich busnes gyda chyn lleied o arian ag sy’n bosibl. Defnyddiwch beth sydd gennych chi; gallwch fenthyg arian hefyd. Prynwch offer ail law neu ewch ati i ffeirio gyda busnesau eraill. Prynwch beth sy’n angenrheidiol yn unig. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio eich arian eich hunan; efallai y gall rhywun yn y teulu roi benthyciad bach i’ch helpu. Gall fod yn anodd sicrhau grantiau a benthyciadau o ffynonellau eraill, ond mae The Prince’s Trust 'Saesneg yn unig' a UnLtd 'Saesneg yn unig' yn ddau sefydliad sy’n cynnig cyllid i entrepreneuriaid ifanc. Porwch drwy Canfyddwr Cyllid Busnes Cymru am syniadau ynghylch cyllid all fod ar gael.

Myth 6 Bydd eich busnes yn cymryd drosodd eich bywyd…

Gweithio, astudio, ffrindiau, teulu a bywyd cymdeithasol - dydy hi ddim yn rhwydd canfod amser i bopeth. Ac mae llwyddo mewn busnes yn gofyn am waith caled, ymrwymiad ac aberth. Ond mae’n bosibl dechrau busnes rhan amser neu fusnes tymhorol yn y lle cyntaf, a fydd yn cael llai o effaith ar rannau eraill eich bywyd. Yn wir, ychydig iawn o amser y perchennog sydd ei angen yn achos rhai busnesau ar-lein yn arbennig, ond wrth gwrs, mae llawer yn dibynnu ar beth ydych chi’n ei werthu. Darllenwch am rai o’r manteision ac anfanteision o weithio i chi eich hun.

Myth 7 Mae’n rhaid i chi fod yn arbenigwr marchnata…

Efallai eich bod yn gwybod mwy nag ydych yn ei feddwl. Wedi’r cyfan, rydych chi’n ddefnyddiwr/prynwr ac mae’n siwr eich bod yn deyrngar i rai brandiau yn fwy nag eraill. Gallwch ddysgu am farchnata yn gyflym neu efallai y gallech gyfnewid sgiliau gydag eraill. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych i farchnata busnes ac mae’n siwr eich bod eisoes yn aelod o rai ohonynt, felly beth am ddefnyddio hynny i godi proffil eich busnes?  Cofiwch, chi yw arbenigwr mwyaf eich busnes, felly chi yw’r person delfrydol i hyrwyddo eich brand. Mae gan Busnes Cymru adran arbennig ar y wefan ar gyfer Marchnata

Myth 8 Dydy pobl fel chi ddim yn dechrau eu busnes eu hunain

Anghywir. Mae bron i bum miliwn o fusnesau bach a chanolig eu maint yn y DU. Mae ystod amrywiol o bobl nawr yn dechrau a rheoli busnesau, o bob rhan o’r gymuned ac o bob cefndir. Mae hynny’n cynnwys pobl sydd wedi dod o gefndir cyffredin iawn ac sydd bellach yn rhai o’r bobl busnes mwyaf llwyddiannus a galluog yn y DU.  Mae pobl fel chi yn dechrau eu busnes eu hunain. Darllenwch rai o’n Proffiliau o Lysgenhadon.

Myth 9 Mae’n rhaid i chi gael syniad sy’n torri tir newydd

Does dim rhaid i chi ddyfeisio rhywbeth hollol newydd i ddechrau eich busnes eich hun.  Mae llawer o entrepreneuriaid llwyddiannus wedi gwneud llawer o arian trwy wella cynnyrch neu syniad sydd eisoes yn bodoli. Yn wir, gallai hynny fod yn ffordd i chi greu busnes newydd hynod o lwyddiannus, cyn belled â’ch bod yn gallu canfod ffyrdd i fod yn well. Darllenwch yr adran cynhyrchu syniadau i’ch busnes.

Myth 10 Byddwch yn gyfoethog ymhen dim amser

Trueni nad yw hyn yn wir. Efallai wir y byddwch ryw ddydd yn dod yn gyfoethog iawn trwy redeg eich busnes eich hunan, ond cofiwch fod y rhan fwyaf o bobl yn gweithio’n galed am flynyddoedd lawer ac yn aml yn aberthu llawer er mwyn ennill cyflog da yn y pen draw. Byddwch yn realistig wrth osod eich nodau, gweithiwch yn galed i’w cyflawni a gwerthfawrogwch rhai o’r manteision eraill a ddaw wrth fod yn fos arnoch chi eich hun.