Beth yw Entrepreneur?

Richard Branson. Julie Deane. Steve Jobs. Hayley Parsons. Mark Zuckerberg. J.K. Rowling. Jamie Oliver. 

Beth sydd ganddynt yn gyffredin ar wahân i lwyddiant ysgubol? Maent i gyd yn entrepreneuriaid.

Efallai eich bod chi’n meddwl na fedrwch chi fod fel y bobl yma. Y gwir ydi mi fedri d

Mae Jamal Edwards, Poppy Dinsey, Joshua Magidson, Georgina Cooper a Zoella i gyd yn enghreifftiau o entrepreneuriaid ifanc sydd yn arwain y ffordd ac yn ailddiffinio edrychiad yr entrepreneur.

Heddiw mae'r gair entrepreneur yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy'n cychwyn busnes; ac mae hynny'n rhan ohono. Fodd bynnag, mae'n fwy na hynny. Mewn gwirionedd mae’n ffordd o fyw sy'n...

 

Agwedd, Creadigrwydd, Delio â Phobl, a Chynllunio.

gartwnydd cartŵn benywaidd

Tydi entrepreneuriaid ddim gwahanol i chdi. Maen nhw'n bobl gyffredin sydd â'r penderfyniad i droi syniadau’n gynhyrchion neu’n wasanaethau

 

Gall fod mor syml â darparu gwasanaeth i bobl nad ydynt yn gwybod sut i wneud rhywbeth, neu ddim eisiau gwneud – mae gwarchod a cherdded anifeiliaid anwes, cynllunio digwyddiadau a phartïon, marchnata drwy gyfryngau cymdeithasol yn rhai enghreifftiau.

 

 

 

 

 

 

Meddwl am eich syniad: dyma sut cafodd Luke ei syniad o...

 

Meddyliwch am bethau rydych chi’n angerddol amdanyn nhw, eich hobïau a diddordebau. Ydych chi’n meddwl y gallech chi ei droi’n fusnes?

Nawr, meddyliwch am eich sgiliau. Mae’n bosib defnyddio’r rhain hefyd i droi syniad yn realiti busnes.

 

Yn fedrus gyda thechnoleg? Dylunio am y we, creu aps a TGCh yw rhai yn unig o’ch llwybrau posib.  

Artistig? Bydd angen gwasanaethau dylunio graffig, marchnata a ffotograffiaeth ar gwmnïau o hyd.

Trwy ddefnyddio eich nwydau, sgiliau a diddordebau i gychwyn busnes, byddwch chi, fel llawer o entrepreneuriaid, yn caru yr hyn yr ydych yn ei wneud.

Meddyliwch am...

  • Beth sy'n peri rhwystredigaeth i ti? Os yw'n dy wylltio di, yna mae’n debyg y bydd yn gwylltio pobl eraill hefyd. Mae cyfleoedd busnes lle bynnag mae anfodlonrwydd. Felly os allwch chi feddwl am ffordd well neu newydd o wneud rhywbeth – ewch amdani.

  • A allaf wir cychwyn busnes? Gall gwneud rhywbeth nad wyt wedi ei wneud o’r blaen fod yn frawychus.  Fodd bynnag, paid â gadael i’r teimladau hynny dy atal rhag symud ymlaen.Mae llawer o bethau’n anodd ar y dechrau ond gydag ymarfer a phenderfyniad, fe DDAW yn haws.

Bydd unrhyw entrepreneur yn dweud wrthych chi nad yw ho bob amser yn hawdd. Bydd rhwystrau a sawl cam yn ôl.  Bydd yna bobl gyda barn wahanol i ti. Mae’n cymryd gwaith caled ac angerdd, os oes gennych chi hyn, does dim terfyn i beth allwch chi ei gyflawni.

Diddordeb? Cliciwch yma i Wireddu'ch Potensial