Enterprise Troopers

Cwestiynnau Cyffredin

Ymgyrch ydy Syniadau mawr Cymru i annog pobl ifanc, entrepreneuriaid a phartneriaid megis Ysgolion, Colegau, Prifysgolion, grwpiau ieuenctid a chymunedol i ymglymu er mwyn codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a dyheadau o entrepreneuriaeth , datblygu plant ifanc hyderus yn meddu ar sgiliau ac agweddau entrepreneuraidd, meithrin brwdfrydedd pobl ifanc at gychwyn busnes, adeiladu eu gwybodaeth a’u helpu i wireddu eu huchelgais.

Gall y gwasanaethau wella’r ystod eang o weithgareddau entrepreneuriaeth sy’n cael eu cynnal gyda sefydliadau partner, o fewn meysydd y cwricwlwm a helpu pobl ifanc i gael mynediad i gymorth parhaus i gychwyn busnes. Ewch at Syniadau Mawr Cymru am fwy o wybodaeth.

Entrepreneuriaid lleol ydyn nhw sydd wedi sefydlu ac wedi rhedeg eu busnesau eu hunain yng Nghymru. Rhwydwaith Modelau Rôl hen-sefydledig sy’n gallu cyfleu orau y cyffro o redeg busnes; helpu i ddeall y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud a’r risgiau maen nhw’n eu cymryd.

Mae ein straeon Model Rôl yn cael eu cynnwys yn ymgyrch Syniadau Mawr Cymru ac maen nhw’n hanfodol er mwyn i ni gyflenwi ein holl wasanaethau. I ffeindio eich Modelau Rôl leol cysylltwch â chydlynydd eich rhanbarth

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o Wasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru rhwng 5 a 25 oed i godi eu hymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth, dod o hyd i’w hysbrydoliaeth, ystyried syniadau ac, yn y pen draw, lansio eu busnesau eu hun. Penodwyd Partneriaeth Prospects, yn cynnwys Prospects and Cazbah Cyf. gan Lywodraeth Cymru i ddarparu Gwasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid ar gyfer Ysgolion sy’n cynnwys cystadleuaeth genedlaethol Y Criw Mentrus i feithrin ysbryd entrepreneuriaeth ymhlith plant ysgolion cynradd yng Nghymru.

Seilir Y Criw Mentrus ar fodel ACPT o entrepreneuriaeth, pedair nodwedd allweddol ymddygiad entrepreneuraidd:

Agwedd
Creadigedd
Perthynas
Trefniadaeth

Na fydd, does dim tâl am gystadlu.

I gynnwys cynifer o blant â phosibl mewn gweithgareddau entrepreneuraidd, bydd y gystadleuaeth ar agor i ddisgyblion mewn dau fand oed; Dosbarth Derbyn, a Blynyddoedd 1 i 2 h.y. plant 4 i 7 oed (Cyfnod Sylfaen) Blynyddoedd 3 – 6 h.y. plant 8 i 11 oed (Cyfnod Allweddol 2).

Mae hwn hefyd yn atal disgyblion derbyn a blwyddyn 1 a 2 rhag cael eu barnu yn erbyn disgyblion hŷn ym mlwyddyn 3-6.

Gall pob ysgol anfon un tîm o Gyfnod Sylfaen ac un tîm o Gyfnod Allweddol 2 i rownd ranbarthol y gystadleuaeth.

Nac oes – chi sydd i benderfynu hynny.

Ar lefel ysgol, gallwch gynnwys cynifer o ddisgyblion a fynnwch. Fodd bynnag, bydd rhaid i ysgolion a ddewisir i gystadlu ar lefel ranbarthol a chenedlaethol gyfyngu’r nifer o aelodau mewn tîm i uchafswm o 4 ynghyd â dau warchodwr.

Am wybodaeth fanwl ewch i amserlen y gystadleuaeth

Mae strwythur y gystadleuaeth yn rhoi hyblygrwydd i chi wrth redeg eich gweithgaredd ysgol. Mae modd cynnal elfen fewnol y gystadleuaeth gyda dosbarthiadau unigol, ar draws grŵp blwyddyn, gyda grwpiau bach o ddisgyblion, fel diwrnod tu allan i’r amserlen arferol, naill ai wedi ymgorffori mewn gwersi neu gyfuniad o’r dulliau hyn – chi sydd i benderfynu.

Does gan y gystadleuaeth ddim thema benodol. Rydyn ni’n credu y byddai hynny’n cyfyngu ar y cyfleoedd i ddysgu. Mae  gennych yr hyblygrwydd i gynllunio, gweithredu ac arddangos eich gweithgaredd entrepreneuraidd cyffrous eich hun.

Ond mae’r gystadleuaeth yn gofyn i ddisgyblion fabwysiadu dull ymchwilgar, datrys problemau, o fynd ati i ddysgu’n entrepreneuraidd, ar ôl cael profiad ymarferol uniongyrchol o fenter ‘go iawn’ sydd angen masnachu ymarferol e.e. dylunio, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch neu wasanaeth.

Mae llawer o ysgolion eisoes yn ymglymu’n llwyddiannus â’u cymuned fusnes leol wrth ymgymryd â’u gweithgareddau menter. Efallai bydd ystod o eang o bartneriaid yn cynorthwyo’ch gweithgareddau ar gyfer y gystadleuaeth gan gynnwys y canlynol:

Busnesau lleol; mae cynnwys busnesau yn hanfodol i wneud byd gwaith yn fyw a helpu plant i sylweddoli bod eu gweithgareddau menter yn yr ysgol yn berthnasol i’r gweithle.
Modelau rôl Syniadau Mawr Cymru
Cyn-ddisgyblion yr ysgol
Sefydliadau yn y gymuned
Llywodraethwyr
Rhieni/gofalwyr
Colegau AB

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymgais eich ysgol ydy 13 Mai 2019. Gallwch roi unrhyw brosiect yr ydych wedi’i weithredu o 1 Ionawr 2019 i mewn i’r gystadleuaeth a does dim cyfyngu ar yr adeg i gynnal eich gweithgaredd menter o fewn y cyfnod hwn na pha mor hir mae’n para.

Bydd y raddfa amser yn caniatáu i chi ymgorffori’r gystadleuaeth yn eich cynllunio cwricwlwm hirdymor a rhoi amser i chi ymgysylltu â’ch cymuned fusnes leol a chysylltu â digwyddiadau eraill. Er enghraifft, bob mis Tachwedd, cynhelir Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, ymgyrch fwyaf y byd i hybu entrepreneuriaeth ar hyd a lled Cymru.

Hefyd, os oes mwy nag un dosbarth/grŵp/tîm yn eich ysgol sydd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd hyn yn rhoi amser i gynnal cystadleuaeth fewnol yn yr ysgol i benderfynu pa dîm (dimoedd) fydd yn cynrychioli’r ysgol yn y rowndiau rhanbarthol.

Ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen dau gam sydd i’r gystadleuaeth, sef; cystadleuaeth fewnol yn yr ysgol (os dyna ddewis yr ysgol) ac yna’r Rownd Derfynol Ranbarthol.

Bydd tri cham i gystadleuaeth disgyblion Cyfnod Allweddol 2, cystadleuaeth fewnol yn yr ysgol (os dyna ddewis yr ysgol), yna’r rownd Derfynol Ranbarthol ac i orffen, y rownd Derfynol Genedlaethol yng Nghaerdydd.

I wneud ymgeisio mor hawdd â phosib i bob ysgol rydym wedi datblygu ffurflen gais fer i chi ei chwblhau ar-lein.

Mae’r ffurflen yn ymrannu’n adrannau er mwyn eich galluogi i ddangos sut wnaeth ddechrau eich busnes ddatblygu’r sgiliau ACPT yn eich disgyblion. Sut wnaethon nhw dangos agwedd gadarnhaol tuag yr her, pa bethau creadigol a wnaethant, pa berthnasau oedd yn bwysig a sut wnaeth y plant drefnu eu busnes.

Gallwch hefyd gynnwys hyd at 4 ffotograff / llun i hyrwyddo eich cais, gall hyn gynnwys posteri neu daflenni a gynhyrchwyd gan y plant.

Gallwch gyfeirio at lawlyfr y gystadleuaeth a’r meini prawf beirniadu i weld beth fydd y beirniaid yn chwilio amdano yn eich cais.

Cynhelir y Rowndiau Terfynol Rhanbarthol rhwng 10 ac 21 Mehefin 2019. Dydi’r lleoliadau ddim wedi’u cadarnhau eto ond ceisiwn sicrhau na fydd rhaid i chi deithio mwy nag awr o’ch ysgol.

Cyhoeddir y sawl sydd wedi cyrraedd y Rownd Derfynol genedlaethol ar ddiwrnod pob Rownd Derfynol Ranbarthol.

Cynhelir y Rownd Derfynol Genedlaethol yng Ngorffennaf 2019 yng Nghaerdydd. Gwahoddir pob un o’r ysgolion llwyddiannus y Rowndiau Terfynol Rhanbarthol sydd o’r Cyfnod Allweddol 2. Bydd lwfans o hyd at £100 tuag at lety dros nos yn cael ei ddarparu ar gyfer pob tîm a chyfraniad o hyd at £100 i deithio i Gaerdydd ac yn ôl o’u hysgol os ydy’r siwrnai dros 50 milltir neu dros 1 awr bob ffordd i Gaerdydd (caiff y pellter ei ddyfarnu o gyfeiriad yr ysgol i Gaerdydd)..

Am elfen y gystadleuaeth sy’n digwydd o fewn yr ysgol, mater i’r ysgol fydd penderfynu hynny. Ar gyfer y digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol, paneli o Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru ac addysgwyr fydd y beirniaid.

Bydd rhagor o wybodaeth am y broses farnu ar gael cyn bo hir iawn.

Caiff amrediad o gymhellion eu cynnig, er enghraifft:
Ar lefel ysgolion; tystysgrifau i’r holl ddisgyblion sy’n cymryd rhan
Ar lefel ranbarthol; plac mur am yr ysgolion buddugol, ynghyd â gwobrau am y disgyblion sy’n cymryd rhan
Ar lefel genedlaethol; seremoni wobrwyo a thlws; ynghyd â thystysgrifau i’r holl ddisgyblion sy’n cymryd rhan
Bydd y Rowndiau Terfynol Rhanbarthol hefyd yn cynnal gweithdai rhyngweithiol gan Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru, er mwyn i ddisgyblion gael dysgu tipyn yn fwy am fusnes ar yr un pryd â chael hwyl. Cymerwch gip ar Flickr y gystadleuaeth am sampl
https://www.flickr.com/photos/enterprisetroopers/sets/

Yn anffodus nid yw’n bosib darparu costau teithio i ysgolion sy’n mynychu’r Rowndiau Terfynol Rhanbarthol. Caiff costau teithio hyd at £100 eu darparu i dimau sy’n mynychu’r Rownd Derfynol Genedlaethol yng Nghaerdydd os bydd eu taith dros 50 milltir neu’n fwy nag awr bob ffordd o Gaerdydd (caiff y pellter ei ddyfarnu o gyfeiriad yr ysgol i Ganolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd).

Rydym ni’n gwerthfawrogi y bydd gennych chi gwestiynau o bosib sydd heb eu cynnwys yn y rhestr yma. Anfonwch unrhyw gwestiynau ychwanegol at: helo@ycriwmentrus.com. Byddwn ni’n ymateb i chi’n bersonol, ac os yw’n briodol byddwn ni’n ychwanegu’r cwestiwn a’r ateb at y dudalen hon er budd pawb.