Cwestiynnau Cyffredin
Erbyn pryd y gofynnir i ni gyflawni ein gweithgaredd menter?
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais eich ysgol yw 27 Mai 2022 am 4pm. Gallwch ymgeisio gydag unrhyw brosiect rydych wedi'i roi ar waith o 1 Ionawr 2021 ac nid oes cyfyngiad ar ba bryd y byddwch yn cyflawni eich gweithgaredd menter o fewn y cyfnod hwn na pha mor hir y mae'n parhau.
Bydd yr amserlen yn caniatáu i chi ymgorffori'r gystadleuaeth yn eich cynllunio cwricwlwm tymor hir a rhoi amser i chi ymgysylltu â'ch cymuned fusnes lleol ac i gysylltu â digwyddiadau eraill. Er enghraifft, bob mis Tachwedd, mae Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (GEW), ymgyrch fwyaf y byd i hyrwyddo entrepreneuriaeth, yn cael ei dathlu ledled Cymru.
Gall ysgolion gyflwyno unrhyw nifer o gynigion ym mhob categori (Cynradd Isaf a Chynradd Uwch) neu gellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer Cynradd Is ac Uwch gyda'i gilydd. Cofiwch, gallwch gynnig gymaint o geisiadau ag y dymunwch ar gyfer pob categori, a gall unrhyw nifer o blant gymryd rhan ym mhob categori.
Beth sy’n rhaid i ni ei wneud i ymgeisio?
- Cofrestrwch eich syniad busnes neu fenter gymdeithasol ar-lein yma a byddwn yn anfon eich pecyn mynediad atoch a mynediad at adnoddau digidol o 12 Tachwedd 2021
- Hysbyswch ni ynglŷn â sut mae'ch cais yn dod ymlaen ac fe gewch gyfle i ennill gwobrau misol (anfonwch luniau o'ch cynnydd i ni gael eu hychwanegu at ein horiel ar y wefan)
Uwch lwythwch eich cais terfynol - fideo 2 funud yn dweud y cyfan wrthym am eich menter neu eich menter gymdeithasol.
A oes canllawiau ar gyfer fformat a chynnwys fy nghais fideo 2 funud?
Mae'r canlynol yn rhoi arweiniad ar gynnwys a fformat eich cais fideo:
- gallai fod yn ffilm ohonoch chi neu'ch tîm
- sioe sleidiau powerpoint sydd wedi'i chadw fel ffeil ffilm
- fe allech recriwtio rhai darpar actorion i hyrwyddo'ch cais ar eich rhan ar ffurf hysbyseb
- gallai fod yn fideo o'ch prosiect menter gyda throsleisio os ydych chi'n swil o flaen y camera
Gallwch fod mor greadigol ag y dymunwch
Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn cadw at y canllawiau canlynol:
- Uchafswm hyd y fideo - 120 eiliad (2 funud) a dim mwy na 50MB.
- Cyflwynwch enw eich menter yn glir (naill ai ar lafar neu fel pennawd neu is-deitl ar y ffilm)
- Rhowch amlinelliad clir o'ch prosiect menter. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn egluro beth yw eich cynnyrch neu wasanaeth.
- Gallai'r fideo fod ar ffurf hysbyseb ar gyfer eich prosiect busnes neu fenter. Y nod yw denu sylw'r beirniaid a sefyll allan o blith gweddill y ceisiadau.
- Bydd y beirniaid yn sgorio'ch cais yn seiliedig ar y meini prawf beirniadu yn y Llawlyfr Cystadleuaeth felly mae'n bwysig eich bod yn rhoi sylw i’r rhain yn eich fideo - cadwch y cyfan yn fyr ac yn fachog (dim mwy na 120 eiliad / 2 funud!)
Bydd y beirniaid hefyd yn dyfarnu gwobrau ychwanegol arbennig felly sicrhewch eich bod yn sôn am feysydd o’ch menter allai sgorio pwyntiau ychwanegol i chi e.e. os yw eich prosiect neu fusnes yn helpu'r amgylchedd neu yn fenter gymdeithasol sicrhewch eich bod chi'n amlygu'r rhain a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n arddangos eich arloesedd a'ch creadigedd hefyd.
Pryd a ble y cynhelir y Rowndiau cyn derfynol?
Cynhelir y Rowndiau Cyn Derfynol ar-lein yn hwyr ym mis Gorffennaf 2022
Pryd fyddwn yn gwybod os ydym wedi cyrraedd y Rowndiau Cyn derfynol?
Fe’ch hysbysir erbyn 17 Mehefin 2022
Pryd a ble y cynhelir y Rownd Derfynol Genedlaethol?
Oherwydd y pandemig cyfredol byddwn yn adolygu sut y byddwn yn cyflwyno’r Rownd Derfynol Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2022 ar sail gyfredol. Os oes modd gwneud hynny byddwn yn cynnal y Rownd Derfynol Genedlaethol fel digwyddiad wyneb yn wyneb gan lynu’n gadarn i ganllawiau Coronavirus Llywodraeth Cymru ar y pryd. Os nad ydym yn gallu cynnal y digwyddiad wyneb yn wyneb fe’i cynhelir yn ddigwyddiad gwbl ddigidol neu ddigwyddiad hybrid.
Beth yw Gwobrau’r Gystadleuaeth?
- Cyn-derfynwyr
- Gwobr Ymgysylltu â Busnes
- Gwobr Cysylltiadau â'r Cwricwlwm
- Gwobr ECO / Amgylcheddol
- Gwobr Menter Gymdeithasol
- Gwobr stondin arddangosfa
- Gwobr Cyflwyniad
- Terfynwyr Cenedlaethol
- Gwobr Seren y Criw (Rownd Genedlaethol yn unig)
- Pencampwr yr Athrawon – a enwebir gan y Pennaeth (Cenedlaethol yn unig)
- Enillydd Cenedlaethol a’r rhai sy’n dod yn ail (Cenedlaethol yn unig)
Bydd gwahanol lefelau o Wobrau fel â chanlyn:
- Efydd - Bydd pawb sy'n cymryd rhan lawn yn y gystadleuaeth yn derbyn tystysgrif Gwobr Efydd am gymryd rhan
- Arian - Bydd pawb a ddewisir i gymryd rhan yn y Rowndiau Cyn Derfynol rhithwir yn derbyn tystysgrif Gwobr Arian fel cyn derfynwyr
- Aur - Bydd pawb sy'n ennill Gwobr yn y Rowndiau Terfynol rhithwir ac a ddewisir ar gyfer y Rownd Derfynol Genedlaethol yn derbyn tystysgrif Gwobr Aur.
- Platinwm - Bydd pawb sy'n ennill Gwobr yn y Rownd Derfynol Genedlaethol rithwir yn derbyn tystysgrif Gwobr Platinwm.
A oes gwobrau i’w hennill?
Dyfarnir nifer o wobrau trwy gydol y flwyddyn.. Cynhelir raffl fisol i ddyfarnu gwobr i’r ysgolion sydd wedi cofrestru ac anfon lluniau atom ar gyfer ein Horiel o fis Tachwedd ymlaen. Bydd gwobrau, tystysgrifau a phlaciau hefyd i enillwyr y Rowndiau Cyn Derfynol a'r Gwobrau Arbennig yn ogystal â thlws i'r enillydd.