Cynghorion Gorau i bod yn fwy hyderus
Mae gan bob un ohonon ni rywbeth sy'n codi ofn arnon ni. Pethau fel uchder, mynd ar rollercoaster neu lygod. Ond beth os yw'r syniad o fynd i gyfweliad yn gwneud ichi grynu? Neu cyflwyno syniad busnes o flaen grŵp o fuddsoddwyr? Neu cyflwyno syniad i weddill eich tîm?
Gwnaethon ni gael sgwrs gyda Stifyn Parri am hunanhyder ac am ei brofiadau mewn Bŵtcamp diweddar. Dyma beth oedd ganddo i'w ddweud.
"Dw i'n diodde' am fod pobl yn meddwl dw i ddim yn diodde' o ddiffyg hyder. . Dw i ddim wastad wedi bod fel yr ydw i. Wedi dysgu hyn ydw i a deall os gwna i fentro, y ca i fy ngwobrwyo. Pan o'n i'n blentyn, dywedodd athro wrtha i nad o'n i cystal â mrawd ond llwyddais i brofi fel arall. Nid fy mrawd ydw i. Yr unig beth fedra i fod yw'r fersiwn gorau ohona i. Trwy drïo bod y fersiwn gorau ohonoch chi, fyddwch chi ddim yn cystadlu â neb arall!
"Fy nghyngor gorau ar gyfer magu hyder yw ceisio anadlu'n dawel - anadlu i mewn am dair, dal eich anadl am dair ac yna anadlu allan am dair arall. A gwneud unwaith eto. Ar ôl rhyw funud, bydd curiad eich calon yn arafu. Ar ôl ichi dawelu, bydd popeth yn gliriach a byddwch yn teimlo'n fwy hyderus."
Gallwch ddysgu mwy am Stifyn trwy ddarllen ei broffil Model Rôl. Mae Stifyn yn gwneud i bopeth swnio mor hawdd, ond yw e? Yr allwedd i hunanhyder yw credu ynoch chi'ch hun. Chath pobl fel Stifyn hyd yn oed ddim eu geni â'r hyder y mae'r byd yn ei weld nawr. Mae'n rhywbeth y gallwch ei ddysgu a'i ddatblygu trwy herio'ch hun a gweithio y tu allan i ble sy'n gysurus i chi.
Efallai bod gennych chi syniad ble rydych chi am fynd - pasio arholiad neu ddechrau busnes neu gael y swydd rydych wedi breuddwydio amdani. Meddyliwch am hyn bob tro byddwch chi'n gwneud rhywbeth sy'n gwneud ichi deimlo'n nerfus. Dyna beth sy'n mynd i'ch sbarduno chi.
Os oes rhywbeth yn eich gwneud yn nerfus, wel ewch amdano. Beth yw'r gwaetha all ddigwydd? Hefyd, meddyliwch yn bositif. Peidiwch â meddwl eich bod am fethu cyn ichi ddechrau. Paratowch gymaint ag y medrwch chi. Mae'n anodd teimlo'n hyderus am rywbeth os nad ydych chi wedi paratoi'ch hunan amdano. Felly peidiwch â bwrw iddi'n ddall, jest achos bod ofn arnoch chi. Cofiwch edrych nôl ar y pethau rydych wedi'u gwneud eisoes a beth ydych chi wedi'i wneud i gyrraedd ble rydych chi. Peidiwch bod ag ofn methu ond byddwch yn barod i wneud camgymeriad ac i ddysgu.
Ac yn bwysicach na dim, fel dywedodd Stifyn, peidiwch â chymharu'ch hunan â phobl eraill; byddwch y fersiwn gorau ohonoch chi, dydych chi ddim yn cystadlu â neb.