Datganiad Preifatrwydd - Cystadlaethau Syniadau Mawr Cymru

Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn rhoi amlinelliad o sut y bydd Llywodraeth Cymru (ni, ein) yn prosesu eich data personol os ydych yn cystadlu mewn cystadlaethau menter drwy Syniadau Mawr Cymru.

 

Er mwyn gweinyddu'r data ar gyfer y gystadleuaeth, mae angen inni brosesu'r mathau canlynol o wybodaeth bersonol amdanoch: Enw, oedran, cyfeiriad e-bost, enw'r ysgol, y coleg, y brifysgol neu'r grŵp cymunedol yr aethoch iddynt, ac awdurdod lleol. Mae'r wybodaeth hon yn ein galluogi i roi gwybodaeth a chymorth i chi wrth ichi gyflwyno cais. Mae hyn yn cynnwys anfon negeseuon e-bost, dolenni i adnoddau ar-lein a phost uniongyrchol atoch sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r gystadleuaeth rydych chi'n cyflwyno cais ar ei chyfer.  Byddwn yn rheolwr ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych yn ei ddarparu ac yn ei brosesu er mwyn cynnal tasgau er budd y cyhoedd o fewn ein swyddogaeth fel Llywodraeth Cymru.

Bydd eich data personol sy’n cael ei gyflwyno fel rhan o’r gystadleuaeth yn cael ei gadw am 6 mis ar ôl dyddiad cau y gystadleuaeth ac ar yr adeg honno yn cael ei ddileu o bob system.

 

Dim ond gyda phartneriaid cyflenwi sy’n cydweithio ar raglen Syniadau Mawr Cymru y caiff y data hyn eu rhannu; darparwyr gwasanaethau Cazbah a Prospects sy'n darparu cymorth Syniadau Mawr Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, a thîm gweinyddu Simply Do, wrth i geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth gael eu cwblhau drwy'r platfform Simply Do ar-lein. Dim ond pan fo gennym sail gyfreithiol fel y dangosir uchod, neu pan fydd rhaid inni yn ôl y gyfraith, y byddwn yn rhannu gwybodaeth.

 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl:

 

● I gael mynediad i’r data personol rydym yn prosesu amdanoch;

● I ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hynny;

● (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu;

● (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i ‘ddileu’ eich data

● I gofnodi cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

 

I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (Llinell gymorth y DU)

Gwefan: https://ico.org.uk 

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddata sydd gan Lywodraeth Cymru a'u defnydd, cysylltwch â:

 

Tîm Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Llywodraeth Cymru

Sarn Mynach

Narrow Lane

Cyffordd Llandudno

Conwy

LL31 9RZ

 

bigideas@llyw.cymru  

 

Am ragor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a’u defnydd, os ydych yn dymuno ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, mae’r manylion cyswllt i’w gweld isod:

 

Swyddog Diogelu Data

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales