Ein Noddwyr a'n Cefnogwyr
Mae cefnogwyr busnes yn chwarae rhan bwysig iawn yn llwyddiant a datblygiad cyson Her y Criw Mentrus i Ysgolion Gynradd yng Nghymru. Rydym yn chwilio am gyrff sy’n gallu helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Efallai eich bod yn chwilio am fuddion penodol trwy gefnogi prosiect fel hyn.
Diolch i holl gefnogwyr Y Criw Mentrus hyd yma.
NODDWR GWEITHDY Diolch i'n noddwr, NatWest Cymru. Darganfyddwch pam eu bod yn cefnogi Y Criw Mentrus a'r gefnogaeth y gallant ei chynnig i athrawon, disgyblion a rhieni yma. |
|
NODDWR FFILM Buffoon Film and Media Rydym yn gwmni cynhyrchu a dosbarthu cyfryngau sydd wedi'i leoli yn ne Cymru. Gan gyfuno creadigrwydd â'r dechnoleg ddiweddaraf, rydym yn cynhyrchu cynnwys fideo a sain ar gyfer ystod eang o gleientiaid ledled y DU a thu hwnt. Rydym hefyd yn arbenigo mewn digwyddiadau ffrydio byw a chwaraeon gyda channoedd o filoedd o wylwyr bob blwyddyn.
|
|
NODDWR LLEOLIAD Coleg Cambria Yn dilyn uno Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Iâl, Wrecsam, Coleg Llysfasi a Choleg Llaneurgain, mae Coleg Cambria bellach yn un o’r colegau mwyaf blaenllaw yn y DU.
Yn ymestyn dros chwe safle, mae Cambria yn cynnig ystod eang o gyrsiau llawn amser a rhan amser yn cynnwys Lefelau A, TGAU, cyrsiau ymarferol, Cymraeg i Oedolion ac Addysg Uwch. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda dros 1,000 o gyflogwyr, mae’r Coleg hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd prentisiaeth gyda chysylltiadau cryf â chyflogaeth leol.
Mae Cambria yn gweithio mewn partneriaeth gyda rhai o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r DU i gynnig cyrsiau gradd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol John Moores, Lerpwl, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Mae’r cyfleusterau yn y Coleg yn cynnwys, ysgol fusnes, canolfan gofal anifeiliaid, fferm 1,000 erw, bwyty, siop flodau, canolfannau rhagoriaeth ar gyfer peirianneg, salonau hyfforddi a stadiwm athletau
|