Grant Rhwystrau

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Covid-19 wedi rhoi rhaglen o gymorth cyflogaeth a sgiliau ar waith i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith.   

Mae rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i unigolion sy’n ystyried bod yn hunangyflogedig. Yn ogystal â’r gwasanaeth cychwyn busnes presennol, mae grant ar gael i gefnogi unigolion di-waith sy’n wynebu mwy o rwystrau economaidd wrth ddechrau busnes. Bydd y grant dewisol hwn yn helpu hyd at 600 o unigolion i ddod yn hunangyflogedig neu i ddechrau busnes rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021.

Bydd y grant ar agor i bob unigolyn di-waith, ond rhoddir blaenoriaeth i’r rheini y mae Covid-19 wedi effeithio fwyaf arnynt:

  • Merched
  • Pobl anabl
  • Pobl o gefndiroedd BAME
  • Pobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant (NEETS) rhwng 18 a 24 oed neu ymadawyr Coleg neu Brifysgol yn 2019 neu 2020 (gweler y nodiadau cyfarwyddyd llawn)

Bydd unigolion yn gallu gwneud cais am hyd at £2,000 i gyfrannu tuag at gostau hanfodol dechrau busnes. Bydd angen i geisiadau gael eu cefnogi gan gynllun busnes sy’n amlinellu’r cynnig busnes a’r costau sy’n gysylltiedig â'r gwaith o sefydlu. Rheolir y grant drwy wasanaeth Busnes Cymru.

 

Gall dechrau busnes fod yn brofiad heriol. Bydd gofyn i bob ymgeisydd gofrestru gyda Busnes Cymru i gael cymorth busnes gan un o’n darparwyr i’ch helpu i ystyried hyfywedd eich syniad busnes a datblygu eich cynllun busnes. Os ydych chi o dan 30 oed, cewch eich cyfeirio atom yn Syniadau Mawr Cymru am gynghorydd i helpu gyda'r broses ymgeisio.

Mae’r holl wybodaeth ar gael yma. Bydd y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau ar 1 Rhagfyr. Defnyddiwch yr amser hwn i baratoi cais a chael gafael ar gymorth i ddatblygu eich cynllun a fydd yn rhan allweddol o’r asesiad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ac os hoffech siarad ag aelod o’n tîm llinell gymorth, cysylltwch ar 03000 6 03000.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, cysylltwch â ni isod a byddwn yn cysylltu yn ôl.

Cytundeb Preifatrwydd
Cytundeb Preifatrwydd