Ysbrydoliaeth ac Adnoddau ar gyfer y rhai sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn yr Her

Yn yr adran yma rydym wedi darparu adnoddau a fydd o help wrth i chi gefnogi pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn yr Her, yn cynnwys:

  • Gwybodaeth cefndir, yn cynnwys ACRO, astudiaethau achos a gweithgareddau
  • Gwybodaeth am Fentrau Cymdeithasol a’r Llinell Waelod Driphlyg
  • Adnoddau (clipiau fideo a dolenni) i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc 11-18 oed
  • Adnoddau a dolenni Syniadau Mawr Cymru
  • Adnoddau i’ch helpu chi ddysgu mwy
  • Enghreifftiau o Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru
  • Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer creu fideo/PPT da

Yn yr Her hon rydym am i bobl ifanc feddwl rhywfaint am eu credoau a’u dyheadau, herio’u hunain i wneud rhywbeth unigryw, a rhoi cynnig ar rywbeth go iawn a allai wirioneddol gael effaith gadarnhaol. Rydyn ni eisiau iddyn nhw gredu y GALLAN NHW wneud gwahaniaeth, a chael gwell dealltwriaeth o’r hyn mae mentrau cymdeithasol yn ei gyflawni.

ACPT (ACRO yn Saesneg) 

Mae cyfle iddynt ystyried eu twf personol a’u datblygiad sgiliau (ddim yn rhan o’r meini prawf beirniadu). Gall gofyn y cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol:

Agwedd: Eich cymhelliant a’ch penderfyniad – beth ddysgoch chi amdanoch chi’ch hun?

Creadigrwydd: A oedd yn rhaid i chi feddwl ac ail-feddwl syniadau? Sut wnaeth eich meddwl ddatblygu?

Perthynas: Beth ddysgoch chi? A wnaethoch chi weithio gyda phartneriaid / ceisio cymorth allanol?

Trefniadaeth: Meddyliwch am enghraifft lle roedd yn rhaid i chi fod yn drefnus.

Cefnogi Cwricwlwm i Gymru 

Mae’r Her Dechrau Rhywbeth Da yn helpu i ddatblygu uchelgais, creadigrwydd, menter a  masnachu moesegol sy’n cefnogi pedwar diben Cwriwlwm i Gymru. Mae’n helpu datblygu sgiliau gwaith tîm, llythrennedd a rhifedd, cymwyseddau TGCh, ynghyd â sgiliau meddal fel hunan-gred, magu hyder a gwytnwch.

Sesiwn cwestiwn ac ateb â Mrs Jacqui Parry, athrawes yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a gymerodd ran yn yr Her. 

Pam wnaethoch chi gymryd rhan?

 Teimlaf nad oes  llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ysgolion uwchradd 11-16 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau menter allanol.   Roedd y testun yn cyd-fynd yn dda gydag un agwedd o gwricwlwm BTEC Busnes Lefel 2, sef astudio busnesau nid er elw, ac roedd yn hwyl cael gwneud rhywbeth gwahanol yn y gwersi.

Sut wnaethoch chi ddefnyddio’r Her?

Dilynwyd trywydd holistig, gan ddilyn ein trwynau i raddau. Ond hefyd roedd angen strwythur gan fod Busnes yn bwnc newydd  i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac roedd eu gwybodaeth o’r maes yn gyfyngedig.  Datblygwyd gwersi penodol wedi’u seilio ar adnoddau’r her ar  wefan  Syniadau Mawr Cymru. Fe dreulion ni  hanner tymor yn dod i ddeall mwy am y trydydd sector ac yn  datblygu syniadau.  

Roedd cynllun yr her ar y wefan yn dda i ennyn diddordeb pobl ifanc ac roedd y gofynion yn glir. Hoffodd y disgyblion y ffilm fer oedd wedi ei chreu. Roedd yr adran ‘Ysbrydoliaeth ac Adnoddau’ yn werthfawr iawn ar gyfer casglu syniadau a datblygu gwell deallwriaeth o’r ystod o fentrau cymdeithasol sy’n bodoli. ​

Sut wnaethoch chi fwrw ’mlaen â’r gwaith a beth oedd ymateb y disgyblion?

Buont yn gweithio mewn grwpiau o'r dechrau, gan ddewis eu grŵp eu hunain,  gyda 2 i 6 disgybl ym mhob un. Dewisodd un disgybl weithio ar ei phen ei hun.  Roedd hyn i gyd yn fwynhad i’r disgyblion gan fod y gwaith yn wahanol i wers strwythuredig arferol. Ar ôl  iddynt ddeall y cysyniad a chael trafodaethau dechreuol, roedd datblygu'r syniad yn dod yn rhwydd ac nid oedd angen arweiniad pellach ar  y mwyafrif. Mae’r dull yma  o weithio yn plethu yn dda â’r Cwricwlwm i Gymru newydd, a gyda’r Pedwar Diben.

Sut wnaeth y disgyblion elwa a pha sgiliau a ddatblygwyd ganddynt?

Ar y dechrau doeddan nhw ddim yn deall llawer am fentrau cymdeithasol ac fe wnaethom edrych ar nifer o fideos byr  a thrafod llawer.  Fe wnaethant ddysgu am y Llinell Waelod Driphlyg sydd ddim yn gysyniad hawdd! Drwy weithio yn eu grwpiau fe wnaethant ddatblygu sgiliau cyfathrebu da, a thyfodd eu sgiliau trosglwyddadwy, yn enwedig TGCh, gan fod rhan helaeth o'r gwaith wedi ei greu ar gyfrifiaduron. Daeth yr her yma â disgyblion yn agosach at ei gilydd ar ôl y cyfnod clo a gwelsom eu hyder yn codi. 

Aeth yr enillydd rhanbarthol oedd o'n hysgol ni ymlaen i gymryd rhan mewn rhaglen dros wyliau’r haf ar gyfer pobl ifanc ddatblygu eu busnes eu hunain yn eu hardal  leol. Teimlaf fod Her Dechrau Rhywbeth Da wedi rhoi'r hyder iddi wneud cais ac i fynychu’r cwrs.

Ymateb y disgyblion i adborth y beirniad?

Derbyniodd pob grŵp adborth adeiladol gan y beirniaid ac ymateb yn dda i’r sylwadau; roeddent wrth eu bodd yn ei dderbyn!

A fyddwch chi’n cymryd rhan yn yr Her eleni?

Byddwn! Roedd yn llwyddiant y llynedd a chynhaliwyd diddordeb y disgyblion trwy gydol y broses.  Byddwn yn cyflwyno’r her i Flwyddyn 10 eleni ar yr un pryd â chyflwyno tystysgrifau i gystadleuwyr y llynedd,  gyda’r nod o sicrhau’r cyfranogiad a’r ymgysylltiad mwyaf o’r cychwyn cyntaf.  Rydym hefyd yn awyddus i gael model rôl Syniadau Mawr Cymru yn rhan o’r broses. 

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gwau’r Her Dechrau Rhywbeth Da â Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ac mae potensial hefyd adnabod cyfleoedd eraill i’w chyflwyno yn y Cwricwlwm newydd. 

 Mentrau Cymdeithasol

Mae Mentrau Cymdeithasol yn teimlo’n angerddol am y byd rydym yn byw ynddo. Diwallu angen sydd wrth wraidd eu cymhelliant i sefydlu busnes. Maent yn fusnesau GO IAWN, sy’n gwneud arian, ond y gwahaniaeth mawr yw y defnyddir yr elw i wneud hyd yn oed rhagor o ddaioni.

Yn 2020, roedd eisoes mwy na 2,000 o fentrau cymdeithasol yng Nghymru yn cyflogi 55,000 o bobl ac yn cyfrannu dros £3bn i’r economi! (Hynny yw £3,000,000,000!)

Erbyn 2030, gobeithir y bydd menterau cymdeithasol yn fodel busnes ddewisol ar gyfer entrepreneuriaid sy’n darparu datrysiadau i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Y Llinell Waelod Driphlyg 

Wrth wraidd pob Menter Gymdeithasol (a’r hyn sy’n ei gosod ar wahân i fusnes traddodiadol) mae rhywbeth a elwir yn Llinell Waelod Driphlyg. Mae hyn yn cynnwys y 3P sef Pobl, Planed, Proffid. Wrth greu syniadau, anogwch bobl ifanc i feddwl am y cwestiynau canlynol:

Pobl: Pwy/beth ydych eisiau ei helpu? Sut y byddwch yn eu blaenoriaethu? Pa effaith fydd eich syniad yn ei gael? Telerau a chyflog y rhai sy’n gweithio?

Planed: Ydy eich gweithgaredd yn un ag effaith isel? Sut fyddwch yn ystyried yr amgylchedd wrth weithredu?

Proffid: Sut fydd eich syniad yn gwneud arian fel y bydd gennych gyflog? Beth fyddwch yn ei wneud gyda’r arian i helpu eich busnes i dyfu? Sut fydd hyn, yn ei dro yn parhau i fod o fudd i eraill?

Hoffem weld tystiolaeth fod pobl ifanc bod wedi bod yn ystyriol o’r gwerthoedd hyn.

Astudiaeth achos – gweithgaredd ar gyfer pobl ifanc 

Sut mae Prom Ally yn helpu eraill a sut mae’r busnes wedi ystyried y 3P (pobl, planed a proffid)?

https://www.promally.co.uk/

Social Business Wales Awards 2021 provides welcome therapy for the social enterprise sector | Wales Co-operative Centre  (One to Watch Award – Prom Ally 1.46m)

Adnoddau i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc!  

Mae’r fideos isod gan gyrff allanol ac nid ydynt ar gael yn y Gymraeg.

Pam fod yr actor Michael Sheen yn gafael mewn sbaner a beth yw mentrau cymdeithasol?    (5m29) *rhybudd: mae’n cynnwys hiwmor!
https://www.youtube.com/watch?v=Ly1xnf6Kx_s&list=TLPQMDUwMTIwMjH9ssal36aqxw&index=2

Mae Michael Sheen eisiau gwybod ble rydych yn prynu eich sanau…   (1m32)

https://www.youtube.com/watch?v=T2vxSHkrcns&list=TLPQMDUwMTIwMjH9ssal36aqxw&index=1

Cynhyrchu syniadau – digon o syniadau i’ch ysbrydoli (7m47)
https://www.youtube.com/watch?v=_A58W-MHdpw

Disgyblion o’r Alban yn cyflwyno eu gweithgaredd menter gymdeithasol yn y ffordd fwyaf creadigol! (5m) *sgroliwch i lawr
https://www.socialenterprise.academy/scot/young-people

The Positive Impact of being a Triple Bottom Line company - “os daw mwy a mwy o fusnesau yn fusnesau Llinell Waelod Driphlyg, yna bydd y byd yn lle llawer gwell”. (4m)   

https://www.youtube.com/watch?v=MxMtQSo9CHA

2020 – cip olwg byr ond argyhoeddiadol trwy gyfrwng miwsig a delweddau ar sut y gwnaeth gweithgareddau un grŵp wneud gwahaniaeth enfawr yng nghyswllt Pobl, Planed, Proffid (3m55)
https://www.youtube.com/watch?v=3No4cxhe-FY

22 o syniadau mentrau cymdeithasol anhygoel  (byd eang)
Mae gweld enghreifftiau o fenter gymdeithasol ar waith yn un o’r ffyrdd gorau i’ch ysbrydoli ar gyfer yr hyn y byddech chi efallai eisiau ei greu. Mae syniadau bob amser yn dechrau yn fach ond yn deillio o’n cydwybod gymdeithasol

https://www.thesedge.org/socent-spotlights/22-awesome-social-enterprise-business-ideas

Adnoddau a dolenni  Syniadau Mawr Cymru  

Social Enterprises / Mentrau Cymdeithasol  (2m37)                
https://www.youtube.com/watch?v=FZ3iwTEtu70

Model Rôl Syniadau Mawr Cymru - Menna Jones, Antur Waunfawr.

https://vimeo.com/491647630/0f896b67e5   Cymraeg (17m14)
https://vimeo.com/491646020/6190dceb6b  Saesneg  (7m36) 

Ewch i wefan Syniadau Mawr Cymruam ragor o broffilliau Modelau Rôl!

Enterprise Catalyst – cwis ysgogi mentergarwch ar-lein i ddarganfod pa mor fentrus ydych chi mewn gwirionedd!

https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/adnoddau-ar-lein

Y Criw Mentrus – Adnoddau ar gyfer Cynradd Uwch / CA3
Gweithgareddau Dysgu Menter i’ch arwain trwy sefydlu a chynnal busnes go iawn!

https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/adnoddau-cynradd-uwch

Y Criw Mentrus – Enghreifftiau ac astudiaethau achos anhygoel o ysgolion Cymru
Mae nifer o’r syniadau busnes yn Fusnesau Cymdeithasol – cymerwch olwg!

https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/astudiaethau-achos-y-criw-mentrus

Cyflwyniad i Fenter Syniadau Mawr Cymru
Egluro sgiliau ACPT (ACRO) a mwy

https://view.officeapps.live.com/op/view.aspx?src=https%3a%2f%2fhwb.gov.wales%2fapi%2fstorage%2ff695e2f9-4c72-4e69-9cec-958dd9836a74%2fSyniadauMawrCymruEntrepreneuriathCyflwyniad-amended.pptx%3ftoken%3de7722c8d-0ec2-45f1-a9e3-e93dece380bd

 

Adnoddau i’ch helpu chi ddysgu mwy 

Trawsnewid Cymru trwy fentrau cymdeithasol  
2020 – cynllun gweithredu newydd a beiddgar wedi’i gynllunio i ail
adeiladu, tyfu a chryfhau'r sector mentrau cymdeithasol a’i alluogi i fynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu Cymru.

Rhaglen Academi Mentrau Cymdeithasol ar gyfer ysgolion   
Cefnogi pobl ifanc i sefydlu a thyfu mentrau cymdeithasol cynaliadwy yn eu hysgolion a’u cymunedau

Pam y dylai plant ddysgu am fenter gymdeithasol? Cyngor Prydain - rhesymeg argyhoeddiadol ar gyfer yr holl addysgwyr/rhieni.
https://www.britishcouncil.org/voices-magazine/why-should-children-learn-about-social-enterprise

Menter gymdeithasol mewn ysgolion: Pecyn adnoddau ar gyfer athrawon  - Building better lives (pdf)
Cyngor Prydeinig – gweithgareddau i gynyddu gwybodaeth myfyrwyr/athrawon/ am arloesedd cymdeithasol ac entrepreneuriaeth tra hefyd yn datblygu sgiliau craidd ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith.

https://www.britishcouncil.org/sites/default/files/social_enterprise_classroom_resource.pdf

Social Enterprise in Education Scotland
Golwg ddiddorol ar sefyllfa addysg yn yr Alban - defnyddio menter gymdeithasol i gefnogi a gwella gweithgareddau eraill sydd eisoes yn digwydd yn yr ysgol neu’r ystafell ddosbarth. Dyma adran ysgol yr Academi Metrau Cymdeithasol.

Tycoon Enterprise Competition – 2021-2022  (Business for Good) https://www.tycoon.com/

Erthygl wych am GenZ 
https://www.socialchangecentral.com/gen-z-the-new-generation-in-social-entrepreneurship/

Rhagor o Fentrau Cymdeithasol Cymru: 

Be The Change https://empower-bethechange.org/

Rainbow Biz   https://www.rainbowbiz.org.uk/

73  Degree Films  https://www.73degreefilms.com/

The Good Wash Company  https://goodwash.co.uk/

Arfon Timber https://www.arfontimber.co.uk/

Canolfan Felin Uchaf Centre https://www.felinwales.org

Cwmni Bro Ffestiniog  http://cwmnibro.cymru/          (Cymraeg)   
                                       
http://cwmnibro.cymru/#en    (English)

Galeri Caernarfon https://www.galericaernarfon.com/amdanom-ni.html    (Cymraeg)
                              
https://www.galericaernarfon.com/eng/about-us.html   (English)

Busnesau cymdeithasol arobryn yng Nghymru,  Busnes Cymdeithasol Cymru (sgroliwch i lawr )
https://businesswales.gov.wales/socialbusinesswales/cy

Awgrymiadau defnyddiol i greu FIDEO da 

Dylai eich fideo fod oddeutu 3 munud o ran hyd (oddeutu 10GB).

Cynhyrchwch eich fideo ar ffurf TIRWEDD nid portread. 

Nid oes rhaid iddo fod yn ‘uwch dechnegol’ – defnyddiwch eich ffôn/iPad i’w gynhyrchu.  Peidiwch â gafael yn y ffôn neu’ch ipad eich hun, gofynnwch i rywun arall wneud hynny neu defnyddiwch treipod.

Gallech hyd yn oed greu animeiddiad os ydy hynny’n well gennych

Sicrhewch eich bod yn cynnwys holl feini prawf yr Her
 

Awgrymiadau defnyddiol i greu CYFLWYNIAD da  

Ni ddylai eich power-point gynnwys mwy nag 8 sleid (oddeutu 30MB)

Gallwch gynnwys lluniau/fideo/sain os ydych yn dymuno

Sicrhewch eich bod yn defnyddio holl feini prawf yr Her