Ymgorffori Menter - Adnoddau Cefnogi Athrawon
Mae addysg menter yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm cynradd yng Nghymru. Pwrpas allweddol cwricwlwm pob ysgol yw cefnogi plant i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Ar ran Llywodraeth Cymru, cyd weithiodd Tîm y Criw Mentrus yn agos gydag athrawon profiadol o ysgolion ag enw da am ymgorffori addysg menter yn llwyddiannus, er mwyn datblygu a chynllunio Adnoddau Cefnogi Athrawon Y Criw Mentrus fyddai’n cynorthwyo i gyflwyno ac ymgorffori menter i’ch cwricwlwm ac annog eich disgyblion i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd
Gellir defnyddio’r Adnoddau Cefnogi Athrawon i
- Godi ymwybyddiaeth am fanteision ymgorffori menter
- Darparu syniadau ac enghreifftiau o ymarfer effeithlon wrth weithredu entrepreneuriaeth
Maent yn cynnwys pedwar cyflwyniad PowerPoint, sef:
- Dulliau ar gyfer cyflwyno cwricwlwm menter eang a chytbwys
- Creu Tîm Menter Llais Disgybl
- Datblygu Cyfranwyr Creadigol gyda Phlant Cynradd Is
- Y Syniad Mawr – Gam wrth Gam
A phedwar astudiaeth achos ysgol ymgorffori menter yn y cwricwlwm gan:
- Ysgol Gynradd Llanrhaeadr Ym Mochnant, Powys
- Ysgol Gynradd Treforys, Abertawe
- Ysgol Gynradd Rhaglan, Sir Fynwy
- Ysgol Gynradd y Trallwng, Powys
Llwybrau Ymgorffori Menter
Astudiaethau Achos