Meini Prawf Asesu

Effaith ECO / Cynaliadwyedd - 100 pwynt

1. Perthnasedd a Phwrpas (20%) – 20 pwynt

  • Nodau Clir: A yw’r prosiect yn nodi her amgylcheddol neu gynaliadwyedd penodol yn glir? A yw’r nodau yn glir-ddiffiniedig ac yn canolbwyntio ar greu effaith gadarnhaol? 
  • Arwyddocâd  Amgylcheddol: Pa mor berthnasol yw’r prosiect i faterion amgylcheddol cyfredol neu’r i’r ecosystem leol?

2. Effaith Amgylcheddol a Chanlyniadau (25%) – 25 pwynt

  • Effaith Weledol: Pa ganlyniadau mesuradwy a gyflawnwyd drwy’r prosiect o ran gwella amodau amgylcheddol neu gynaliadwyedd? Er enghraifft, a wnaeth leihau gwastraff, arbed adnoddau neu hyrwyddo bioamrywiaeth?     
  • Cynaliadwyedd a Hirhoedledd: A gynlluniwyd y prosiect i greu buddion hir dymor i’r amgylchedd? A oes cynlluniau i’w barhau neu ei ehangu yn y dyfodol? 

3. Ymrwymiad a Chydweithio Disgyblion (20%) – 20 pwynt

  • Ymglymiad a Chyfrifoldeb : Pa mor weithredol oedd y disgyblion wrth gymryd rhan yn y prosiect, gan gymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth yn ei weithrediad?
  • Ymgysylltu â’r Gymuned: A oedd cydweithio gydag aelodau’r gymuned leol, sefydliadau neu grwpiau amgylcheddol  yn rhan o’r prosiect?  A wnaethpwyd ymdrech i addysgu neu gynnwys eraill?   

4. Creadigedd ac Arloesedd (15%) – 15 pwynt

  • Dull Arloesol: A yw’r prosiect yn defnyddio dulliau newydd a chreadigol i fynd i’r afael â’r mater amgylcheddol a ddewiswyd? A yw’r syniadau gwreiddiol neu ddatrysiadau yn rhan o’i ddyluniad? 
  • Datrys Problemau: Pa mor effeithiol oedd y prosiect wrth fynd i’r afael â heriau a darganfod datrysiadau arloesol i rwystrau amgylcheddol? 

5. Dysgu a Datblygiad Disgyblion (10%) – 10 pwynt

  • Sgiliau a Gwybodaeth: Pa wybodaeth amgylcheddol neu sgiliau a enillodd y disgyblion trwy’r prosiect? A ddysgwyd am ail-gylchu, cadwraeth, neu ynni adnewyddadwy? 
  • Twf a Myfyrdod: A yw’r disgyblion yn gallu myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd a phwysigrwydd eu cyfraniad i gynaladwyedd amgylcheddol? 

6.Cyflwyno a Chyfathrebu (10%) – 10 pwynt

  • Eglurdeb ac Ymgysylltu: Pa mor glir ac effeithiol yw’r disgyblion wrth gyflwyno pwrpas, proses ac effaith y prosiect? 
  • Ysbrydoliaeth a Chyrhaeddiad : A yw’r prosiect yn ysbrydoli eraill o fewn yr ysgol neu’r gymuned leol i fabwysiadu ymddygiadau mwy cynaliadwy neu i weithredu? 

Effaith Cymdeithasol / Cymunedol - 100 pwynt

1. Perthnasedd a Phwrpas (20%) - 20 pwynt

  • Pwrpas a Nodau: Pa mor effeithiol yw’r prosiect wrth nodi angen cymdeithasol neu gymunedol penodol? A oes nod clir sy’n cyd-fynd â’r nod o gael effaith gadarnhaol? 
  • Perthnasedd Cymunedol: Pa mor berthnasol yw’r prosiect i’r gymuned leol neu’r gymdeithas yn gyffredinol? 

2. Ymrwymiad a Chyfranogiad y Gymuned (20%) - 20 pwynt

  • Cyfranogiad a Chydweithio: A wnaeth y disgyblion gynnwys y gymuned neu grwpiau eraill yn eu hymdrechion? A oedd ymgysylltiad â rhieni, sefydliadau lleol, neu arweinwyr cymunedol? 
  • Cynhwysiant: A yw’r prosiect yn arddangos cynhwysiant, gan sicrhau fod croeso i bob aelod o’r gymuned a’u bod yn gallu cymryd rhan 

3. Creadigrwydd ac Arloesedd  (15%) - 15 pwynt

  • Dull Unigryw: A yw’r prosiect yn dangos dull creadigol ac arloesol wrth fynd i’r afael â’r mater a ddewiswyd? 
  • Datrys-Problemau: A oes strategaethau neu ddatrysiadau unigryw sy’n gwneud y prosiect yn arbennig?

4. Effaith a Chanlyniadau (25%) - 25 pwynt

  • Canlyniadau Gweladwy: Pa effaith mesuradwy gafodd y prosiect ar y gymuned neu’r mater dan sylw? A oes canlyniadau clir? 
  • Cynaliadwyedd: A gynlluniwyd y prosiect  gydag effeithiau cadarnhaol hir dymor mewn golwg? A fydd yr effaith yn parhau wedi i’r prosiect ddod i ben? 

5. Dysgu a Datblygiad Disgyblion (10%) - 10 pwynt

  • Adeiladu Sgiliau: Beth ddysgodd y disgyblion o ganlyniad i’r prosiect? A wnaethant ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm, arweinyddiaeth, empathi neu ddatrys problemau
  • Twf a Myfyrdod: A yw’r disgyblion yn gallu myfyrio ar eu profiadau a gwerth eu cyfraniad? 

6. Cyflwyno a Chyfathrebu (10%) - 10 pwynt

  • Eglurdeb ac Effeithlonrwydd: Pa mor eglur  ac effeithiol yw’r disgyblion wrth gyflwyno pwrpas, proses ac effaith y prosiect? 
  • Ysbrydoliaeth a Chymhelliant: A yw’r prosiect yn ysbrydoli eraill i weithredu neu gymryd rhan mewn ymdrechion tebyg? 

Creadigrwydd / Arloesedd - 100 pwynt

1. Gwreiddioldeb ac Unigrywiaeth  (25%) - 25 pwynt

  • Syniadau Ffres: Ydi’r prosiect yn dangos syniad neu gydsyniad unigryw sydd ar wahân i’r gweddill?  A yw’n wahanol i ddulliau cyffredin eraill? 
  • Dull Gwreiddiol: Pa mor effeithiol yw’r disgyblion am osgoi ystrydebau a chanfod rhywbeth newydd?

2. Datrys Problemau ac Arloesedd (20%) - 20 pwynt 

  • Datrys Problemau yn Effeithiol: A yw’r prosiect yn mynd i’r afael â phroblem neu her benodol mewn ffordd arloesol? 
  • Datrysiadau Creadigol: A oes datrysiadau dyfeisgar sy’n arddangos meddwl gwreiddiol neu ddulliau newydd i ymdrin â heriau cyffredin? 

3. Dylunio a Gweithredu  (15%) - 15 pwynt

  • Ansawdd a Sylw at Fanylder: Pa mor grefftus a sylwgar yw cynllun y cynnyrch neu’r cyflwyniad terfynol 
  • Defnydd o Ddeunyddiau a Thechnegau: A yw’r disgyblion yn defnyddio adnoddau mewn ffordd arloesol neu anghonfensiynol? A oes cyfuniad effeithiol o dechnegau a deunyddiau? 

4. Ymgysylltiad a Brwdfrydedd Disgyblion (15%) - 15 pwynt

  • Cyfranogiad a Chyfrifoldeb: Pa mor weithredol oedd y disgyblion wrth gymryd rhan mewn creu syniadau, dylunio a gweithredu’r prosiect? A ydynt yn dangos ymdeimlad o berchnogaeth gref? 
  • Angerdd a Brwdfrydedd: A ddangosir cyffro clir ac ymrwymiad yn y prosiect? A yw’r disgyblion yn dangos cariad at y broses greadigol?

5. Effaith ac Ymarferoldeb  (15%) - 15 pwynt

  • Ymarferoldeb a Defnyddioldeb  : A oes gan y prosiect ddefnydd ymarferol neu a yw’n cynnig datrysiad posib i broblem y byd go iawn? 
  • Apêl Cynulleidfa: A yw’r prosiect yn ddifyr, ysbrydoledig neu yn rhoi mwynhad i eraill wrth ei brofi?

6. Cyflwyno a Chyfathrebu (10%) - 10 pwynt

  • Eglurder ac Effeithlonrwydd: Pa mor effeithiol yw’r disgyblion wrth gyfathrebu eu syniadau, pwrpas eu prosiect a’u proses greadigol? 
  • Ysbrydoliaeth: A yw’r prosiect yn ysbrydoli eraill i feddwl yn greadigol neu ddilyn syniadau arloesol eu hunain?