Sefydlais i fy musnes cyntaf yn 14 oed, yn gwerthu Gerbilod i siopau anifeiliaid anwes. Roedd hwn yn fusnes eitha proffidiol i fachgen 14 oed ond ces i helynt yn yr ysgol o’i herwydd drwy gyrraedd yn hwyr ar ôl i’r Gerbilod ddianc o’u cewyll.
Es i ymlaen wedyn i sefydlu busnes trwsio ac ailwerthu radios CB yn 15 oed. Wrth ddod yn gyfarwydd â byd menter o hyd, sefydlais i gwmni meddalwedd cyfrifiadur archebu drwy’r post yn 16 oed a werthais i 5 mlynedd yn hwyrach. Yn 17 oed sefydlais i gwmni cymorth TG a’i redeg yn llwyddiannus yn Ne Cymru am 16 o flynyddoedd.
"Does dim angen caniatâd arnoch chi i fynd yn Entrepreneur, ond mae’n syniad da cael mentor!"
Austin Walters - Austin Walters & Co
Fel entrepreneur dwi wedi gwneud pob dim a gwisgo’r crys-T a phob het yn y busnes.
Rwy’n falch o’r ffaith nad ydw i erioed wedi gweithio i neb ond fi fy hunan, ac i’m cwmni cymorth TG oroesi a thyfu drwy 2 ddirwasgiad.
Erbyn hyn, rwy’n treulio llawer o’m hamser fel ymgynghorydd i gwmnïau mwy o faint ar strategaeth farchnata ddigidol. Rwy hefyd yn buddsoddi mewn cwmnïau sydd mewn trafferth ac yn eu troi nhw o gwmpas.
Cysylltu gyda Austin