Austin Walters
Austin Walters
Austin Walters & Co
Trosolwg:
Ymgynghorwyr Strategaethau Marchnata Digidol ac Achub Busnesau
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

Sefydlais i fy musnes cyntaf yn 14 oed, yn gwerthu Gerbilod i siopau anifeiliaid anwes.  Roedd hwn yn fusnes eitha proffidiol i fachgen 14 oed ond ces i helynt yn yr ysgol o’i herwydd drwy gyrraedd yn hwyr ar ôl i’r Gerbilod ddianc o’u cewyll. 

Es i ymlaen wedyn i sefydlu busnes trwsio ac ailwerthu radios CB yn 15 oed. Wrth ddod yn gyfarwydd â byd menter o hyd, sefydlais i gwmni meddalwedd cyfrifiadur archebu drwy’r post yn 16 oed a werthais i 5 mlynedd yn hwyrach.  Yn 17 oed sefydlais i gwmni cymorth TG a’i redeg yn llwyddiannus yn Ne Cymru am 16 o flynyddoedd.

"Does dim angen caniatâd arnoch chi i fynd yn Entrepreneur, ond mae’n syniad da cael mentor!"

Austin Walters - Austin Walters & Co

Fel entrepreneur dwi wedi gwneud pob dim a gwisgo’r crys-T a phob het yn y busnes.

Rwy’n falch o’r ffaith nad ydw i erioed wedi gweithio i neb ond fi fy hunan, ac i’m cwmni cymorth TG oroesi a thyfu drwy 2 ddirwasgiad.

Erbyn hyn, rwy’n treulio llawer o’m hamser fel ymgynghorydd i gwmnïau mwy o faint ar strategaeth farchnata ddigidol. Rwy hefyd yn buddsoddi mewn cwmnïau sydd mewn trafferth ac yn eu troi nhw o gwmpas.

 


Cysylltu gyda Austin