Ces i fy magu’n blentyn dosbarth gweithio ar ystâd gyngor gwaith dur yn Ne Cymru. Pan ddaeth y cyfle i deithio, cymeres i’r cyfle, ac yn y diwedd treulies i lawer o’m gyrfa yn gweithio’n rhyngwladol, i ffwrdd o Gymru.
Gweithies i mewn diwydiannau fel y Cyfryngau a Chyhoeddi, Cronfeydd Masnachu ac Addysg Uwch, yn ogystal ag astudio am MBA yn ysgol fusnes Llundain, cyn dychwelyd i Gymru i sefydlu Gareth John Consulting yn 2006.
Ffactorau Llwyddiant: Rhwydweithio; sylwi ar dueddiadau yn y farchnad; dysgu a chymhwyso profiadau newydd yn gyson
Buon ni’n gweithio i ddechrau gyda chyrff yng Nghymru a’r DU, cyn ehangu’n gorwelion i weithio’n rhyngwladol mewn gwledydd fel Kenya, De Affrica a hyd yn oed Saudi Arabia.