Gareth John
Gareth John Consulting LLP
Trosolwg:
Ymgynghoriaeth sy’n helpu cyrff o fewn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i hyrwyddo eu hunain a denu swyddi a buddsoddiad newydd.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

 

 

Ces i fy magu’n blentyn dosbarth gweithio ar ystâd gyngor gwaith dur yn Ne Cymru. Pan ddaeth y cyfle i deithio, cymeres i’r cyfle, ac yn y diwedd treulies i lawer o’m gyrfa yn gweithio’n rhyngwladol, i ffwrdd o Gymru.

Gweithies i mewn diwydiannau fel y Cyfryngau a Chyhoeddi, Cronfeydd Masnachu ac Addysg Uwch, yn ogystal ag astudio am MBA yn ysgol fusnes Llundain, cyn dychwelyd i Gymru i sefydlu Gareth John Consulting yn 2006. 

Ffactorau Llwyddiant: Rhwydweithio; sylwi ar dueddiadau yn y farchnad; dysgu a chymhwyso profiadau newydd yn gyson

Buon ni’n gweithio i ddechrau gyda chyrff yng Nghymru a’r DU, cyn ehangu’n gorwelion i weithio’n rhyngwladol mewn gwledydd fel Kenya, De Affrica a hyd yn oed Saudi Arabia.

 


Cysylltu gyda Gareth