Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru
Sylwch nad Syniadau Mawr Cymru sy’n berchen ar y gwefannau canlynol ac mae’n bosibl y bydd y cynnwys ar gael yn uniaith Saeneg yn unig. Am wybodaeth am breifatrwydd, gweler y polisïau preifatrwydd ar y gwefannau unigol.
Cymru
- Edrychodd yr ymchwil i Ddyheadau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru 2017 ar y cymhellion, y rhwystrau a’r dylanwadau sy’n llywio penderfyniadau entrepreneuriaid ifanc i ddechrau a thyfu busnes
- Strategaeth Menter ac Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru (YES) a lansiwyd yn 2004, gan gynnig strwythur a ffocws i addysg entrepreneuriaeth yng Nghymru.
- Cynllun Gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) i Gymru 2010-15 Nododd y Cynllun Gweithredu hwn ganlyniadau ar draws meysydd polisi Economaidd ac Addysg Llywodraeth Cymru a hoelio sylw ar bobl ifanc a sut mae eu cymryd yn eu blaen ar daith entrepreneuriaeth.
- Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru werthusiad o’r rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid a gyflwynwyd gan Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae canfyddiadau’r gwerthusiad wedi llywio datblygiad Gwasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Busnes Cymru, a ddechreuodd ar 1 Ionawr 2016.
- Astudiaethau Achos o’r Ymagwedd yng Nghymru at Addysg Menter – Sy’n amlygu ymagwedd Llywodraeth Cymru at addysg menter sy’n cael ei gyrru gan y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid.
- The Global Entrepreneurship Monitor (GEM) yw astudiaeth flaenaf y byd o entrepreneuriaeth. Mae adroddiadau GEM i Gymru yn crynhoi’r prif ganfyddiadau a’r themâu allweddol yr arolygon GEM hyn gyda ffocws penodol ar entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru.
- Going Solo: Understanding Self-Employment in Wales - Nod yr adroddiad hwn, a gafodd ei gomisiynu gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a’i gynhyrchu gan Yr Athro Andrew Henley a Dr Mark Lang, yw bwrw goleuni ar y llu o bobl hunan-gyflogedig yng Nghymru.
- Uchelgais Genedlaethol: Addysg Menter, Ysgolion ac Economi Cymru – mae’r adroddiad hwn a gafodd ei gomisiynu gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a’i gynhyrchu gan yr arbenigwr addysg Yr Athro David Egan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, yn edrych ar gyfleoedd i hyrwyddo entrepreneuriaeth a menter o fewn y system addysg yng Nghymru.
-
Mae Cefnogi Menywod Entrepreneuraidd yng Nghymru yn disgrifio’r modd y mae Llywodraeth Cymru a’r gymuned fusnes yn ceisio cefnogi entrepreneuriaid benywaidd yng Nghymru. Nod y Canllaw Arferion Da yw helpu’r gymuned sy’n cynorthwyo busnesau i ganolbwyntio’n benodol ar y rhywiau. Mae hefyd yn cynnig trosolwg er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i ddatblygu ac ehangu entrepreneuriaeth fenywaidd ar draws Cymru.