Jamie McAnsh
Jamie McAnsh
See no bounds
Trosolwg:
Siaradwr Ysgogol ac Anturiaethwr
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Torfaen

Pwy yw’r gŵr sydd wedi dringo i ben mynydd ar ei ddwylo?

Mae Jamie yn un o enillwyr anrhydeddus gwobrau nodedig Brave Britain, ac mae wedi ennill amryw o wobrau am gyflawniadau arbennig. Jamie hefyd yw’r gŵr sydd wedi dringo i ben mynydd ar ei ddwylo, fel y gwelwyd yn Wales Online. Pam? Gan ei fod eisiau cyrraedd y copa, a doedd dim byd yn mynd i’w rwystro.

Mae’n anturiaethwr beiddgar, yn arloesi ym maes chwaraeon i bobl anabl, ac yn aelod balch o’r Cardiff Archers, tîm pêl-fasged cadair olwyn. Mae’n gyn-chwaraewr rygbi cadair olwyn sydd wedi cynrychioli Cymru, ac roedd yn aelod o dîm Beic-llaw De Cymru yn nigwyddiad Carten100 2015. Mae llwyddiannau eraill Jamie yn cynnwys bod y person cyntaf erioed mewn cadair olwyn i gwblhau her WAAT4, a bod y chwaraewr sboncen anabl cyntaf i gystadlu yn nhwrnamaint Meistri Agored Cymru yn erbyn chwaraewyr sy’n gwbl abl yn gorfforol. Ei nod yw hyrwyddo sboncen i bobl anabl.

Mae Jamie wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc, ac mae hynny’n rhan gwbl angenrheidiol o’i siwrnai o ddysgu.

Mae Jamie yn siaradwr ysgogol sydd â'r gallu i ysbrydoli pawb sy’n gwrando arno, yn ddi-os. Mae Jamie yn credu bod gan bob un ohonom ni fynydd i’w ddringo, ac felly nad yw ei gyflwr yn ei wneud yn wahanol i neb arall.

Yn ei sgyrsiau, mae’n rhannu straeon am frwydro, herio a llwyddo. Mae’n cynnig nifer o safbwyntiau gwahanol ar sut i ymateb i her, a sut i oresgyn y rhwystrau meddyliol sy’n wynebu pob un ohonom. Nod Jamie yw gweithio gyda phobl ifanc o bob oed i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio eu gallu a’u cryfder mewnol eu hunain. Weithiau, mae angen i ni feddwl y tu allan i’r bocs. Mae model busnes sylfaenol Jamie wedi’i seilio ar yr agwedd hon, a dyna sy’n gwneud iddo lwyddo.

Mae gan Jamie allu aruthrol i gyfathrebu â phobl ifanc o bob oed. Mae ganddo storïau antur i’w rhannu, ac ysbryd sy’n dangos i bobl ifanc bod angen i chi frwydro i gyflawni’ch nod. Mae’n cynnig neges go iawn o addasu a goresgyn rhwystrau yn wyneb adfyd. Bydd yr ystafell yn fwrlwm i gyd ar ôl gwrando ar Jamie.

Ym mis Ionawr 2014, deffrodd Jamie – Mr See No Bounds – a sylweddoli nad oedd yn gallu defnyddio ei goesau. Ar ôl taith lafurus o gael asesiadau meddygol, yn y pen draw cafodd Jamie wybod bod ganddo gyflwr niwrolegol swyddogaethol, sef Syndrom Poen Lleol Cymhleth (CRPS).

Ond, yn hytrach na chanolbwyntio ar fywyd mewn cadair olwyn, cafodd Jamie flas ar antur, ac fe ddefnyddiodd ei rwystredigaeth i sbarduno ei allu creadigol. Ac yn dilyn trychineb a oedd yn newid bywyd, fe sefydlwyd See No Bounds. Mae Jamie wedi ymrwymo i fyw bywyd y tu allan i’r bocs.