Kala Krish
Kala Krish
Bubble Tea
Trosolwg:
Hyfforddiant ar gychwyn busnes, datblygu apiau ffonau symudol a gwefannau a photelu diodydd
Rhanbarth:
Gwynedd

Symudais i’r Deyrnas Unedig o Singapore gyda fy nheulu yn 2012 a chwblhau fy mlwyddyn olaf yn astudio Busnes ym Mhrifysgol Bangor yn 2013. Cefais gydnabyddiaeth am fy ngwaith caled a fy natur benderfynol a dyfarnwyd y teitl “Myfyriwr Entrepreneuraidd Gorau’r Flwyddyn” i mi am fy ymdrechion entrepreneuraidd.

Ar ôl i mi raddio, fe wnes i agor fy nghaffi cyntaf ‘Bubble Tea’ ym Mangor, gan ddenu sawl datganiad i’r wasg. ‘Bubble Tea’ yw’r enw sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth o de llaeth a the ffrwythau blasus, sy’n cael eu gweini yn oer neu’n boeth, gyda pheli tapioca cnoadwy sy’n cael eu sugno drwy welltyn trwchus! Roedd y caffi cyntaf yn llwyddiannus iawn, felly dyma fuddsoddi gwerth 6 ffigwr er mwyn ehangu'r busnes. Roedd y broses o ehangu’r busnes yn heriol, a dysgais sut mae gwerthu mewn ffordd fwy effeithiol drwy newid i e-fusnes, gan leihau’r gorbenion a'r risgiau.

 

Rydw i’n frwd iawn o blaid busnes, ac rydw i'n hyfforddi ac yn mentora unigolion uchelgeisiol sy’n awyddus i gychwyn ar eu taith entrepreneuraidd.

Ymysg fy musnesau eraill mae cwmni datblygu meddalwedd, sef Red Chilli Apps, lle rydyn ni’n gweithio gyda busnesau eraill i wella amlygrwydd ar-lein drwy ddatblygu gwefannau, rhaglenni symudol a meddalwedd pwrpasol, yn ogystal â KALZ Enterprise, sy’n potelu ac yn dosbarthu te ffrwythau.

Rydw i’n mwynhau siarad ar lwyfannau amrywiol gan rannu fy ngwybodaeth a fy mhrofiadau â chynulleidfaoedd. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus o ennill sawl gwobr yn ystod fy nhaith entrepreneuraidd. Y cyflawniad rydw i fwyaf balch ohono yw cael fy rhestru ymhlith y 50 uchaf o Fudwragedd ysbrydoledig y Deyrnas Unedig. Cyhoeddwyd hyn mewn llyfr o’r enw “50 Voices of Migrant Women”, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2017 yn San Steffan.

Wrth i ni weithio tuag at ein nodau a'n breuddwydion, rydw i’n credu'n gryf bod yn rhaid i ni galedu. Mae bywyd yn anodd, ac mae’n rhaid i ni fod yn gryf er mwyn cael y gorau arno.