Cychwynnodd fy siwrnai yn Hermon, pentref niwlog a gwyntog ym mynyddoedd Sir Gaerfyrddin, yn blentyn a oedd yn mynd i’r capel ac yn helpu fy nhad i dorri gwrychoedd a gwair pobl leol am arian poced.
Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio fel Cerddor/Diddanwr hunan-gyflogedig.
Roeddwn yn 14 oed pan gychwynnais fy musnes cyntaf fel athro drymiau er mwyn ennill ychydig o arian i brynu mwy o offer drymiau; mi fûm yn gweithio ar fferm fy nghefndryd, yn 17 oed, cychwynnais fy musnes peiriannydd sain; yn 21 oed agorais fy nghlwb tafarn fy hun sef “THE VINE Nightspot”, ac erbyn fy mod yn 22 roeddwn wedi sefydlu fy hun fel drymiwr proffesiynol i gael arian ychwanegol, a phan oeddwn yn 26 penderfynais fynd i faes gwerthu i ddysgu mwy am adwerthu a sut gallwn ddefnyddio hynny yn fy ngyrfa Cerddoriaeth.
Ar hyn o bryd rwy’n perfformio trwy chwarae drymiau gyda phob math o fandiau mewn theatrau/parciau gwyliau/gwestai ledled Prydain, ac yn ddiweddar roeddwn yn drymio gyda’r band teithio rhyngwladol “And Finally Phill Collins Tribute’.
Cychwynnodd fy ngyrfa cerddoriaeth yn chwarae drymiau yn fy nghapel lleol
a phan oeddwn i’n ymarfer a gweithio’n galed, gofynnwyd i mi chwarae mewn capel arall, ac yna un arall, ac fel caseg eira, arweiniodd hynny at fwy o gyfleoedd a chyfarfod mwy o bobl, sydd wedi fy arwain i ble rydw i heddiw.
Rydw i wrth fy modd yn bachu ar gyfleoedd a rhoi cynnig ar unrhyw beth.
Os nad ydych yn dweud iawn/ie/gwnaf, efallai na fyddwch fyth yn darganfod y peth yna sy’n eich gwneud chi’n arbennig. Mae darganfod rhywbeth newydd amdanoch eich hun ac amgylchynu eich hun gyda’r bobl iawn yn hanfodol ar gyfer eich bywyd a’ch hunan ddatblygiad, a chyda’r meddylfryd hwn a’r pethau newydd a ddysgwch, wyddoch chi byth pa gyfleoedd all fod rownd y gornel i chi.
Mae bod yn hunan gyflogedig wedi rhoi bywyd deinamig a chyffrous iawn i mi; trwy roi fy hun mewn sefyllfaoedd a allai gynnig cyfleoedd i mi, sy’n hanfodol i mi fel person, cerddor ac fel busnes hunan gyflogedig.