Pecyn Croeso Syniadau Mawr Cymru

Os ydych chi'n dechrau coleg neu brifysgol yng Nghymru'r hydref hwn ac eisiau dysgu mwy am gychwyn eich busnes eich hun, yna mae'r pecyn croeso yma i chi. Isod mae podlediadau, pdfs ac adnoddau i’ch helpu chi i ddarganfod syniadau. Maen nhw ar gael i chi eu pori os ydych chi'n chwilfrydig am entrepreneuriaeth, yn chwilio am syniad busnes, neu angen help i gymryd y camau cyntaf. Ddim yn siŵr ble rydych chi ar eich taith? Archwiliwch ein Llwybr Busnes yma.

Pencampwr Menter

Mae Pencampwyr Entrepreneuriaeth ym mhob coleg a phrifysgol yng Nghymru, dewch o hyd i'ch un chi yma.

Podlediadau

Gwrandewch a dysgwch wrth yr arbenigwyr am frandio, cyllid, y gyfraith a phopeth arall sydd ei angen arnoch i gychwyn busnes.

Canllaw Cychwyn Busnes

Canllaw amhrisiadwy i chi lawr lwytho a'i gadw wrth eich ochr wrth i chi gychwyn ar eich taith.

"Simply Do Ideas"

Yn hoffi’r syniad o ddechrau busnes? Neu eisoes wedi cael syniad rydych chi am ddatblygu? Mae heriau Simply Do Ideas yn berffaith i chi!

Dewch o hyd i syniad busnes!

Yn hoffi’r syniad o fod yn fos arnoch chi'ch hun ond angen y syniad mawr hwnnw arnoch chi o hyd? Peidiwch fecso!

Digwyddiadur

There are currently no events available.

Fwy o Ddigwyddiadau