Polisi preifatrwydd ffurflen cysylltu â ni

Ewch yn ôl at y ffurflen gysylltu â ni

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol y byddwch chi’n ei ddarparu i Syniadau Mawr Cymru. Bydd y data’n cael ei brosesu yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn prosesu eich data personol yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Neilltuwch funud neu ddau i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

Pan fyddwch chi’n cyflwyno ymholiad drwy’r ffurflen cysylltu â ni ar-lein yn www.syniadaumawr.cymru, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ni i reoli ac ymateb i’ch ymholiad. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio gan dimau gwasanaethau Llywodraeth Cymru, a’r darparwyr gwasanaethau Cazbah, Prospects, Business in Focus & Antur Teifi sy’n darparu cymorth Syniadau Mawr Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Rydym yn prosesu eich data yn unol â’r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio yn Llywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid yn unol â’r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Rydym yn defnyddio’r data a ddarperir i ymdrin â’ch ymholiad ac ymateb iddo.

Mae’r data y byddwch yn ei ddarparu ar y ffurflen cysylltu â ni yn cael ei gadw am gyfnod o flwyddyn cyn ei ddileu o’n system.

Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu gosod yma ac yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith. Pan fydd newidiadau yn digwydd, i’r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost rydym wedi’i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn eich galluogi i adolygu’r fersiwn newydd.

Eich hawliau

  • O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl:
  • I gael mynediad i’r data personol sydd gennym amdanoch;
  • I ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
  • (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i wrthod neu gyfyngu ar brosesu;
  • (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i ‘ddileu’ eich data;
  • Cofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Os hoffech gysylltu â ni i drafod cwyn neu bryder sydd gennych am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn prosesu eich data personol, neu am ofyn i ni ddileu eich data, gallwch ofyn am gael siarad â’r Swyddog Diogelu Data drwy ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu drwy gysylltu â ni ar-lein yn Cysylltwch â ni | Busnes Cymru (gov.wales).  Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg

Os oes gennych chi bryderon neu gŵyn am sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’ch data dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Customer Contact Wycliffe House

Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745
neu 0303 123 1113

Gwefan: ICO.ORG.UK

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:

Swyddog Diogelu Data,
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: 

DataProtectionOfficer@gov.wales 

 

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn galluogi’r cyhoedd i ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

ewch yn ôl at y ffurflen gysylltu â ni