Cefais fy ngeni a fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl gadael y brifysgol, symudais i Siapan am 4 blynedd i addysgu Saesneg fel iaith dramor.
"Ceisiwch ddod o hyd i ffordd o fyw a swydd yr ydych yn frwdfrydig yn ei chylch ac sy'n agos at eich calon."
Aaron Meli - Slapping Skins
Fe sefydlais fy musnes drymiau yn 2002, a mynd yn hunangyflogedig ychydig o flynyddoedd wedi hynny. Rydw i'n gweithio gydag ysgolion, darparwyr celf, ysbytai a grwpiau anabl. Fel arfer, rydw i'n mynd i rywle gyda 15-30 o ddrymiau Affricanaidd ac yn cynnal sesiwn ar gyfer y grŵp, a'u hannog i chwarae drymiau gyda'i gilydd.
Cefais y syniad pan oeddwn ar brentisiaeth yn Siapan gyda drymiwr oedd yn feistr ar ei grefft. Mae fy musnes wedi datblygu ar lafar. Rydw i'n gweithio ledled Cymru a rhannau o Loegr, ond dydw i ddim wedi llwyddo i ennill fy mhlwyf yn Llundain eto!