Rwy’ wedi bod yn angerddol am entrepreneuriaeth erioed. Drwy gael fy magu mewn gwlad ddatblygol, gallwn i weld yn gynnar iawn y byddai meithrin meddylfryd entrepreneuraidd cryf yn hanfodol, ac roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhaid i mi fod yn ddyfeisgar i oresgyn rhwystrau.
Es i i’r brifysgol i astudio’r gyfraith, gan dreulio’r hafau tramor yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth i ddatblygu a mireinio sgiliau mewn gwerthu a marchnata.
Ffactorau Llwyddiant: Adleoli fy hun i wledydd gwahanol er mwyn gwasanaethu fy nghleientiaid yno’n well; cael cysylltiad cryf â’r rhanbarthau rwy’n gweithio gyda nhw; bod yn gyfarwydd â’u hieithoedd a’u diwylliannau i adeiladu ymddiriedaeth.
Roeddwn i am wella fy mhrofiad entrepreneuraidd, gweles i fwlch yn y farchnad yn y diwydiant twristiaeth a theithiau a dechreues i fy musnes fy hun.
Ar ôl profiad llwyddiannus iawn, coleddes i fusnes ac entrepreneuriaeth fel fy ngalwedigaeth. Dadansoddes i farchnad gyflogaeth De Ewrop, a gweles i fod llawer o staff meddygol uchel eu hyfforddiant sy’n chwilio am swyddi. Hefyd gweles i fod galw uchel amdanyn nhw yna yn y DU, ac felly dechreues i fusnes yn dod â’r ddau angen yma ynghyd.