Al Davies
Al Davies
Seren Glas Properties
Trosolwg:
Cwmni Buddsoddi mewn Eidda
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Caerdydd

Al Davis ydw i, o Seren Glas Properties Limited, cwmni buddsoddi mewn eiddo, sy’n prynu eiddo sydd angen eu hadnewyddu, ac yn eu troi yn gartrefi o ansawdd uchel i bobl eu rhentu a byw ynddynt.

Yn Seren Glas, rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref cyfforddus, diogel, sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda y gallant ei wneud yn gartref iddynt.  Rydyn ni hefyd yn teimlo bod gennym ddyletswydd i ddod â pharch yn ôl i’r Sector Rhent Preifat.

Erbyn diwedd 2018, roeddwn wedi bod yn rhedeg busnes dylunio graffeg yng Nghaerdydd nad oedd wir yn cyrraedd ei nod. Nid oedd gennyf gleientiaid rheolaidd, roedd biliau’n dod i mewn ac roedd gen i deulu i’w gynnal. Gwyddwn fod arnaf angen rhywbeth i greu newid mawr.

Roedd gan fy ngwraig Anna wastad ddiddordeb mewn prynu eiddo ac roedd yn deall beth ellid ei gyflawni. Drwy lwc, fe welodd gwrs eiddo 3 diwrnod yn cael ei hysbysebu, ac aethon ni’n dau arno. Erbyn amser cinio ar yr ail ddiwrnod, fe wnaeth wawrio arnaf mai hwn oedd ein cyfle i newid ein bywydau er gwell.  Fe wnaethom gofrestru ar gwrs addysg 2 flynedd, dechrau astudio a gwella ein gwybodaeth, cymryd cam mawr, ac roeddem wedi dod o hyd i’n heiddo cyntaf erbyn Ionawr 2019.

Fe wnaeth fy merch fy ysbrydoli i newid ein dyfodol a gadael etifeddiaeth iddi hi, er mwyn rhoi iddi’r rhyddid i ddewis beth mae hi eisiau wneud.

Doeddwn i ddim yn hoffi ffonio na siarad ag asiantau wyneb yn wyneb, ac roedd gas gen i’r syniad o fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio, ond drwy weithredu eto, fe wnes i orfodi fy hun i wneud, a dydw i erioed wedi edrych yn ôl. Dwi’n gwybod bod gen i’r gallu i wynebu fy ofnau a’u goresgyn. Nawr, rwy’n barod i roi cynnig ar unrhyw gyfle rwy’n dod ar ei draws.

Rydyn ni wedi creu portffolio o eiddo rhent sy’n darparu inni lif arian cyson bob mis. Po fwyaf o eiddo rydyn ni’n eu hychwanegu, y mwyaf o amser sydd gennym i wneud y pethau ry’ ni’n eu mwynhau, fel treulio amser gyda’r teulu, mynd i ffwrdd neu i wyliau neu ddigwyddiadau mawr. Mae eiddo yn rhoi inni’r rhyddid a’r dewis er mwyn gallu dewis beth rydyn ni eisiau ei wneud.

Fy mhrif awgrymiadau:

  • Mae addysg mor holl bwysig. Byddwch bob amser yn barod i ddysgu rhagor.  Mae bob dydd i mi yn ddiwrnod ysgol.
  • Ni fydd dim yn digwydd os nad ydych chi’n gweithredu.
  • Sicrhewch fod y bobl iawn o’ch cwmpas.
  • Byddwch yn effro i gyfleoedd.