Aled Vaughan Owen
Ynni Da
Trosolwg:
Cwmni sy’n defnyddio addysg mewn ffordd newydd er mwyn creu dyfodol cynaliadwy
Sectorau:
Ynni a Gwasanaethau Amgylcheddol a Nwyddau
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Mae Ynni Da yn arbenigo mewn addysg ynni ac eco-lythrennedd. Rydym yn cynnig dull arloesol a chyffrous i weledigaeth addysg a chynllunio gweithredu. Mewn byd sy'n datblygu'n gyflym, mae Ynni Da yn dod ag ymagwedd ffres, ddeinamig a hyblyg tuag at weithio, er mwyn galluogi creu dyfodol cynaliadwy.  Rydym yn teilwra ein gweithdai i alluogi'r cyfranogwyr i ffynnu gan ddefnyddio offer rhyngweithiol i roi profiad eang. Mae'r rhain yn cynnwys gorsafoedd pŵer pedal, tyrbinau gwynt, paneli solar, ceir rasio-eco ac ystod gyfan o offer a gemau addas.
 
Nid yw heriau’n rheswm i roi'r gorau i bethau, ond yn hytrach yn rheswm i ddal ati!
Aled Vaughan Owen - Ynni Da
 
Rwy'n frwd dros wella gwytnwch a lles ar lefel leol a chenedlaethol a chyflwyno gweithdai newid ymddygiad arloesol a grymuso mewn ysgolion, prifysgolion a chymunedau. 
 
Rwyf wrth fy modd gyda’r amrywiaeth o waith a’r profiadau rwy’n eu cael o wneud y swydd hon.  Mae amser mor bwysig, ac fel bos ar eich hun, gallwch flaenoriaethu'r hyn yr ydych yn ei wneud. Er enghraifft, mae gennym bolisi, os yw'r tywydd yn wych, ac mae'r llwyth gwaith yn hylaw, yna gallwn gymryd egwyl a mynd ar ein beiciau. 
 
Os oes gennych rhywbeth gwerthfawr i'w gynnig a’ch bod yn gofyn y cwestiynau cywir, bydd drysau yn agor. Rwyf bob amser wedi bod yn greadigol, a bob amser wedi bod eisiau bod yn fos ar fy hun.  Dechreuais gynllun entrepreneuraidd bach pan roeddwn yn yr ysgol, roedd yn anochel y byddwn un diwrnod yn dod yn hunangyflogedig. 
 
Rwyf wedi cael y pleser a'r anrhydedd o gwrdd â rhai pobl wych ac ysbrydoledig sy'n gwneud pethau da yn y sector cynaliadwyedd. Rydym wedi cael y fendith o blaned wych, ond rydym yn gwneud dewisiadau annoeth a fydd yn gwneud bywyd yn anodd. Fy mhrif ysbrydoliaeth yw fy mhlant ac rwyf yn ymdrechu bob dydd i sicrhau dyfodol gwell a glanach iddynt hwy a'u cenhedlaeth.