Alice Briggs ffoto
Alice Briggs
Blaengar
Trosolwg:
Mudiad celfyddydau dielw
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Ceredigion

Mae Blaengar yn sefydliad celfyddydol nid-er-elw yn Aberystwyth, ei brif amcan yw darparu fforwm ar gyfer deialog a chydweithio. 
 
Sefydlais Blaengar yn 2006 i feithrin diwydiannau creadigol ac artistiaid sy'n dod i'r amlwg, cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd y tu allan i'r gofod oriel traddodiadol. Rydym yn angerddol am y celfyddydau a chreu canolbwynt creadigol yn Aberystwyth a’r cyffiniau. Ein nod yw hyrwyddo celf gyfoes drwy addysg. Mae Blaengar yn annog ffurfiau newydd ac arloesol o waith celf gan ddefnyddio perfformiad, gosod, gwrthrychau y daethpwyd o hyd iddynt, cerflunwaith, cyfryngau newydd, yn ogystal â ffurfiau celfyddydol mwy traddodiadol.
 
Meddyliwch y tu allan i'r bocs, ac ewch amdani. 
Alice Briggs - Blaengar
 
Roeddwn i eisiau creu fforwm newydd ar gyfer arddangos a mwy o gyfleoedd rwydweithio gydag artistiaid tebyg, drwy nosweithiau cymdeithasol, sesiynau tiwtora ac arddangosfeydd bychain mewn mannau anarferol megis siopau gwag. Mae gen i bartneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth i ddarparu interniaethau ar gyfer myfyrwyr a graddedigion ac annog artistiaid i aros yn yr ardal leol ac adeiladu 'canolbwynt creadigol'. 
 
Roedd cyllid yn her fawr, ac mae hynny’n parhau i fod yn wir. Mae artistiaid yn adnabyddus am fod yn anodd iawn i weithio gyda nhw ac mae'n wir, mae'n rhaid iddynt gael eu gwthio’n galed i wneud y gwaith a rhoi i chi’r ansawdd rydych ei angen ar gyfer rhaglen.
 
Mae bod yn unig fasnachwr a rhedeg sefydliad nid-er-elw yn waith caled, ond mae werth yr ymdrech pan fo’r prosiectau’n llwyddiant, ac rydych yn cynhyrchu arddangosfa neu weithdy da, ac yn cael eich gwobrwyo gan ddarn o waith gwych gan artist a mwynhad y gymuned ohono. 
 
Byddai trosglwyddo angerdd busnesau creadigol annibynnol i genhedlaeth iau yn helpu i annog creadigrwydd a bydd yn helpu i gefnogi economi’r dyfodol.