Alun Hughes
Alun Hughes
Alun Hughes Film, Music and Nostalgia
Trosolwg:
Adwerthwr ffilmiau, cerddoriaeth a chasgliadau o'r gorffennol
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Wrecsam

Fe sefydlais fy siop gyntaf ym 1977, ond rydw i bod yn berchen ar nifer o wahanol fusnesau ers hynny. Ro'n i wedi gweld rhai siopau eraill yn gwerthu eitemau i'w casglu, ond doedd neb yn cynnig yr un gwasanaeth ar gyfer meysydd/fformatau eang.

"Ymchwiliwch i bopeth am eich maes – ac nid ymchwil am y farchnad yn unig. Ceisiwch gael gwybod cymaint ag y gallwch gan bobl eraill."

Alun Hughes - Alun Hughes Film, Music and Nostalgia

Felly, fe welais fod bwlch yn y farchnad. Yn 2006, fe sefydlais fy musnes newydd sy'n ymdrin ag unrhyw beth sy'n gysylltiedig â ffilmiau, cerddoriaeth a chasgliadau o'r gorffennol.

Mae hyn yn cynnwys DVDs, CDs, finyl, crysau T, ategolion a phosteri. Mae fy nghwsmeriaid yn tueddu i fod yn hŷn, ac maen nhw'n hoffi dod o hyd i'r cynnyrch a'i brynu, yn hytrach na mynd ar-lein.

Rydw i'n mwynhau'r ffaith fy mod yn gweithio mewn swydd a fyddai fel arall yn hobi i mi.